'Lot o bobl ddim yn cael bwyd blasus, iachus, lleol'
"Bwyd blasus, iachus, lleol... dydi lot o bobl yn y wlad ddim wedi cael y cyfle 'na."
Mae Carwyn Graves, y colofnydd ac awdur bwyd, yn byrlymu wrth sôn am elusen newydd Cegin y Bobl.
Mae'n egluro bod yr elusen "yn cefnogi’r economi leol o ran bwyd ac yn dysgu plant mewn ysgolion, arweinwyr cymunedol ac unrhyw un mewn gwirionedd, i goginio bwyd".
Mae'r syniad wedi ei seilio ar gynllun peilot yn Sir Gaerfyrddin, lle mae cogyddion lleol proffesiynol wedi bod yn arwain cyrsiau coginio mewn ceginau cymunedol ac ysgolion.