Cegin y Bobl yn helpu teuluoedd i baratoi bwyd fforddiadwy
- Cyhoeddwyd
Y weledigaeth yw "bwyd blasus, iachus, lleol... dydi lot o bobl yn y wlad ddim wedi cael y cyfle ‘na".
Mae Carwyn Graves, y colofnydd ac awdur bwyd, yn byrlymu wrth sôn am elusen newydd Cegin y Bobl.
Mae'n egluro bod yr elusen "yn cefnogi’r economi leol o ran bwyd ac yn dysgu plant mewn ysgolion, arweinwyr cymunedol ac unrhyw un mewn gwirionedd, i goginio bwyd".
Mae'r syniad wedi ei seilio ar gynllun peilot yn Sir Gaerfyrddin, lle mae cogyddion lleol proffesiynol wedi bod yn arwain cyrsiau coginio mewn ceginau cymunedol ac ysgolion.
Y llynedd, roedd bron i 1,400 o bobl wedi mynd ar gyrsiau cynllun Coginio24 yn Sir Gâr, oedd yn cael eu rhedeg gyda chefnogaeth Coleg Sir Gâr, y cyngor lleol a Llywodraeth y DU.
Ond bydd y cynllun hwnnw - sy'n addysgu pobol am sgiliau coginio fforddiadwy - yn dod i ben fis nesaf.
Mae apêl nawr i ariannu elusen newydd, sydd â'r bwriad o gyflwyno'r prosiect dros Gymru gyfan.
Mae Carwyn Greaves yn cydnabod y byddai hynny'n "costio miliynau".
"Mae’n mynd i gymryd blynyddoedd – dyna pam ni wrthi o ddifri yn adeiladu y model yma, achos os nad ydyn ni’n neud e rŵan, pryd 'newn ni fe?
"Os na allwn ni fynd i’r afael â’r heriau hyn o ran iechyd a bwyd byddwn ni fel cymdeithas yn talu lot mwy yn y dyfodol - yn yr NHS, ta beth."
Un o'r cogyddion sy'n hyfforddi ar un o'r cyrsiau yn Llanelli yw Ffion Roberts.
O'i phrofiad hi, does gan nifer fawr o bobl ddim syniad lle i ddechre wrth fynd ati i goginio.
"S'dim lot o pobl yn coginio lot gartre'," meddai.
"Ni’n gorfod dysgu sgiliau fel sut i ddefnyddio cyllyll. Ni wedi cael pobl sydd ddim yn gwbod hyd yn oed sut i ddefnyddio grater.
"S'dim lot o hyder gan bobl, a weithiau ma' hyd yn oed dilyn rysáit a mynd mas i brynu cynhwysion yn gallu bod yn overwhelming."
Mae rhai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Y Strade ymhlith y plant lleol sy'n cael gwersi coginio fel rhan o gynllun Coginio24.
Dywed Rory fod ei sgiliau wedi gwella'n sylweddol a'i fod yn coginio i'r teulu yn y tŷ.
"Pan ddechreues i, doeddwn i ddim yn gallu coginio. Ond, nawr ma' fy sgiliau wedi datblygu’n dda a fi’n credu bo fi’n gallu neud loads o bethe fel omelette, brownies, bolognaise, sausage rolls, lemon cake - lot."
Esboniodd Grug ei bod wedi elwa hefyd.
"Fi’n meddwl bo fi wedi dysgu sgiliau coginio gwahanol - sut i ddefnyddio cyllell a sut i cymysgu gwahanol bethe at ei gilydd - a fi’n credu bod e’n rili dda i coginio yn y tŷ nawr.
"Pan ni’n coginio o’r tŷ mae’n fwy rhad a fwy ffresh hefyd, ddim yn greasy ac artiffisial."
Mae Ifan yn gobeithio dod yn gogydd ar ôl bod ar y cyrsiau.
"Fi'n coginio adre unwaith yr wythnos. Weithiau fi’n neud bwyd i'r teulu i gyd, neu weithiau dim ond cwcan i hunan fi," meddai.
"Fi’n neud goujons, weithiau fi’n neud bolognaise, weithiau fi’n neud chilli, cyri. Lot o bethe gwahanol.
"Fi’n teimlo’n hapus ar ôl i fi neud y bwyd, achos fi’n bwyta rhywbeth fi wedi creu."
Dywedodd Isabella ei bod yn "hoffi neud fajitas a pob blwyddyn fi’n neud cacen pen-blwydd fy hunan!"
Mae Nel hefyd wrth ei bodd yn coginio.
"Fi’n credu dyle mwy o bobl feddwl am coginio fwy neu helpu rownd y tŷ ‘da coginio. Ma' fe jyst yn syniad neis, rili."
'Siawns am newid mawr'
Eisioes mae'r syniad yn denu sylw rhyngwladol.
Dywedodd yr arbenigwr bwyd atgynhyrchiol a ffermio, Dr Nathan Einbinder o Brifysgol Plymouth: "Mae prosiect fel hyn yn helpu ar haenau gwahanol. Gallai dysgu plant sut i goginio roi lot o awdurdod i blant gymryd rheolaeth dros eu deiet.
"Gallai hefyd lifo i'r gymuned, eu cartref ac mae 'na siawns am newid mawr."
Wrth i'r arian ar gyfer Coginio24 ddod i ben mae'r gwaith eisoes wedi dechrau i sefydlu elusen newydd Cegin y Bobl i gymryd ei le ac i helpu pobl ar draws Cymru gyda'u sgiliau bwyd.
Yn ôl y trefnwyr, mae'r cynhwysion yn barod ond mae angen yr arian nawr er mwyn sicrhau fod pobol ar hyd a lled Cymru yn gallu coginio a bwyta yn well.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref