Noel Thomas yn emosiynol ar ôl cael ei anrhydeddu

Roedd Noel Thomas yn ddagreuol ar ôl derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor.

Cafodd y cyn-bostfeistr ei wneud yn Ddoethur er Anrhydedd yn y Gyfraith mewn seremoni fore Mawrth.

Roedd Mr Thomas yn un o'r cannoedd o is-bostfeistri a gafodd eu heffeithio gan sgandal Horizon y Swyddfa Bost.

Cafodd ei garcharu yn 2006, pan ddangosodd system gyfrifiadurol Horizon bod £48,000 ar goll o gyfrifon ei swyddfa bost ar Ynys Môn.

Cafodd yr euogfarn ei diddymu yn 2021.

Dywedodd Mr Thomas ei bod wedi bod yn gyfnod tywyll, ond bod ef ac is-bostfeistri eraill bellach yn "dechrau dod i'r lan".