Noel Thomas: Is-bostfeistri 'wir angen help'

Mae Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi y bydd cyfraith newydd yn cael ei chyflwyno er mwyn sicrhau bod unrhyw un a gafodd ei effeithio gan y sgandal is-bostfeistri yn cael "eu rhyddhau o unrhyw fai yn sydyn".

Yn gwylio cyhoeddiad Mr Sunak o Ynys Môn oedd Noel Thomas, a gafodd ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon.

Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post, ac fe gafodd ei euogfarn ei gwrthdroi yn 2021.

Yn siarad gyda gohebydd BBC Cymru Liam Evans, dywedodd Mr Thomas ei fod yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad yn "help mawr" i'r rheiny sy'n dal i frwydro.

Cafodd Mr Thomas ymddiheuriad uniongyrchol gan y gweinidog busnes a masnach, Kevin Hollinrake ar lawr y siambr yn San Steffan ddydd Mercher.

Yn ymateb i Liz Saville Roberts o Blaid Cymru, a gododd achos Mr Thomas, dywedodd Mr Hollinrake ei fod "ar ran y llywodraeth a'r Swyddfa Bost yn ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd i Mr Thomas".