Terry Griffiths: 'Colled drom i’r byd chwaraeon yng Nghymru'
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r chwaraewr snwcer, Terry Griffiths, sydd wedi marw yn 77 oed.
Yn wreiddiol o Lanelli, Griffiths oedd y Cymro cyntaf i ddod yn bencampwr byd ar ôl dod drwy'r rowndiau rhagbrofol wrth iddo ennill o 24-16 yn erbyn Dennis Taylor yn y rownd derfynol ym 1979.
Enillodd y Meistri yn 1980 hefyd, a Phencampwriaeth y DU yn 1982 i gwblhau coron driphlyg Snwcer.
Roedd wedi bod yn byw gyda dementia ers sawl blwyddyn.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y gohebydd snwcer Gareth Blainey, fod Terry Griffiths yn "gymeriad hyfryd" ac y bydd "colled fawr ar ei ôl".
“Ar nodyn personol fe fuodd yn ffeind iawn wrtha‘ i ar ôl i mi ddechrau gohebu ar snwcer," meddai.
"Doedd dim byd yn ormod o drafferth iddo o ran gwneud cyfweliadau gyda fi ynglŷn â chwaraewyr presennol, ac edrych yn ôl ar ei yrfa.
"Roedd e wrth ei fodd yn edrych 'nôl ar ei yrfa, o‘dd Terry yn siaradwr o fri, yr hiwmor sych oedd ganddo fo. Dyna fydda i yn ei gofio."
Ychwanegodd: "Bydd colled fawr ar ei ôl o, colled drom i’r byd snwcer a cholled drom i’r byd chwaraeon yng Nghymru.
“Roedd yn bleser ac yn fraint i mi gael ei adnabod o."