Cyn-bencampwr snwcer y byd Terry Griffiths wedi marw yn 77 oed
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-bencampwr snwcer y byd Terry Griffiths wedi marw yn 77 oed.
Roedd wedi bod yn byw gyda dementia ers sawl blwyddyn.
Yn wreiddiol o Lanelli, Griffiths oedd y Cymro cyntaf i ddod yn bencampwr byd ar ôl dod drwy'r rowndiau rhagbrofol wrth iddo ennill o 24-16 yn erbyn Dennis Taylor yn y rownd derfynol ym 1979.
Enillodd y Meistri yn 1980 hefyd, a Phencampwriaeth y DU yn 1982 i gwblhau coron driphlyg Snwcer.
Ar ei anterth, cyrhaeddodd y trydydd safle ar restr detholion y byd, ac yn 2007 fe dderbyniodd OBE am ei wasanaeth i'r gamp.
'Mentor, hyfforddwr a ffrind'
Mewn datganiad ar wefan Facebook, dywedodd ei fab Wayne: "I'n ffrindiau a dilynwyr snwcer yn gyffredinol, rydym yn drist iawn i orfod rhannu'r newyddion am ein colled.
"Bu farw Terry Griffiths OBE yn dawel ar 1 Rhagfyr, ar ôl brwydr hir gyda dementia.
"Cafodd y Cymro balch ei eni yn Llanelli, fe ddaeth â balchder i'r dref a nawr mae e wedi marw yn Llanelli. Fyddai e ddim wedi ei chael unrhyw ffordd arall."
Ar gyfrif X World Snooker mae Griffiths wedi ei ddisgrifio fel "un o oreuon y gamp".
Ychwanegodd y corff eu bod yn "cydymdeimlo'n ddiffuant â theulu a ffrindiau Terry. Roedd pawb yn y gamp yn ei garu a'i barchu," meddai'r neges.
Yn dilyn gyrfa broffesiynol lwyddiannus, daeth Griffiths yn hyfforddwr ym 1997 gan ysbrydoli sêr fel Stephen Hendry, Mark Williams a Mark Allen.
Mewn teyrnged, dywedodd Mark Williams ar y cyfryngau cymdeithasol fod Terry Griffiths yn "fentor, hyfforddwr a ffrind".
Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Llanelli, Nia Griffith mewn neges ar wefan X ei bod yn "cydymdeimlo â theulu Terry Griffiths, gwir arwr yn ardal Llanelli".
'Colled drom i’r byd chwaraeon yng Nghymru'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y gohebydd snwcer Gareth Blainey, fod Terry Griffiths yn "siaradwr o fri" oedd â "hiwmor sych".
“Ar nodyn personol fe fuodd yn ffeind iawn wrtha‘ i ar ôl i mi ddechrau gohebu ar snwcer," meddai.
"Doedd dim byd yn ormod o drafferth iddo o ran gwneud cyfweliadau gyda fi ynglŷn â chwaraewyr presennol, ac edrych yn ôl ar ei yrfa.
"Roedd e wrth ei fodd yn edrych 'nôl ar ei yrfa, o‘dd Terry yn siaradwr o fri, yr hiwmor sych oedd ganddo fo. Dyna fydda i yn ei gofio."
Ychwanegodd: "Mae Jamie Clarke - sy‘n dod o Lanelli fel Terry - wedi disgrifio Terry y bore 'ma fel 'inspiration' a 'legend' ac mae 'na lun hyfryd o Jamie Clarke yn blentyn gyda Terry yn sefyll wrth ei ymyl.
"Roedd Terry yn amlwg wedi bod yn helpu Jamie pan oedd o’n chwaraewr snwcer ifanc.
“Bydd colled fawr ar ei ôl o, colled drom i’r byd snwcer a cholled drom i’r byd chwaraeon yng Nghymru.
“Roedd yn bleser ac yn fraint i mi gael ei adnabod o."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2021