'Ddim yn deg' fod Gething wedi gorfod ymddiswyddo

Mae un o ragflaenwyr Vaughan Gething yn dweud ei fod yn "ddig" am y modd y gwnaeth rhai o weinidogion Llywodraeth Cymru orfodi'r prif weinidog i ymddiswyddo.

Dywedodd Alun Michael, oedd yn arwain y Blaid Lafur yng Nghymru rhwng 1999 a 2000, fod Mr Gething wedi ei "orfodi" i ymddiswyddo ac nad oedd wedi cael y gefnogaeth roedd o'i angen.

Cyhoeddodd Mr Gething ddydd Mawrth y byddai'n rhoi'r gorau iddi ar ôl i bedwar aelod blaenllaw o'i gabinet ymddiswyddo.

"Rhaid cofio nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le, ddim wedi torri'r gyfraith, ddim wedi torri rheolau," meddai.

"Ond barn dau neu dri o bobl sydd wedi penderfynu bod y pwysau wedi dal ymlaen mewn ffordd sydd ddim yn deg."