Vaughan Gething wedi ei 'orfodi' i ymddiswyddo

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Mr Gething ddydd Mawrth y byddai'n rhoi'r gorau iddi ar ôl i bedwar aelod blaenllaw o'i gabinet ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd

Mae un o ragflaenwyr Vaughan Gething yn dweud ei fod yn "grac iawn" am y modd y gwnaeth rhai o weinidogion Llywodraeth Cymru orfodi'r prif weinidog i ymddiswyddo.

Dywedodd Alun Michael, oedd yn arwain y Blaid Lafur yng Nghymru rhwng 1999 a 2000, fod Mr Gething wedi ei "orfodi" i ymddiswyddo ac nad oedd wedi cael y gefnogaeth roedd o'i angen.

Cyhoeddodd Mr Gething ddydd Mawrth y byddai'n rhoi'r gorau iddi ar ôl i bedwar aelod blaenllaw o'i gabinet ymddiswyddo.

Ond dywedodd y cyn-brif weinidog, Mark Drakeford nad yw'n cytuno "mai witch-hunt sydd wedi bod yma."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Michael fod y sefyllfa yn "drist iawn ac yn ofidus"

Wrth siarad ar raglen World Tonight ar Radio 4, dywedodd Alun Michael fod "nifer o bobl yn grac iawn ac yn teimlo'n rhwystredig bod Vaughan wedi cael ei orfodi o'i swydd".

"Ry'n ni wedi colli arweinydd da oedd yn barod i wneud penderfyniadau anodd a chlir wrth geisio arwain Llywodraeth Cymru a'r Senedd."

Dywedodd Mr Michael, a ymddiswyddodd fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn 2000, fod Mr Gething yn ffrind iddo a'u bod wedi cael sgwrs ddydd Mawrth.

"Mae'n drist iawn ac yn ofidus nad yw wedi cael y gefnogaeth roedd o'i angen," meddai.

Dywedodd Mr Michael fod "pobl dda yn y Senedd" a allai fod yn y ras i ddod yn arweinydd nesa'r blaid.

Fe gyfeiriodd at yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Materion Gwledig Huw Irranca Davies.

Bydd corff rheoli Llafur Cymru yn cyfarfod dros y penwythnos ac mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi amserlen yr ymgyrch ar gyfer dewis arweinydd nesa'r blaid.

Disgrifiad o’r llun,

Y pedwar aelod o'r llywodraeth a ymddiswyddodd fore Mawrth - Jeremy Miles, Julie James, Mick Antoniw a Lesley Griffiths

Mae Vaughan Gething wedi bod dan bwysau ers cyn dod yn brif weinidog ym mis Mawrth oherwydd rhoddion dadleuol i'w ymgyrch i fod yn arweinydd ei blaid, ac yn fwy diweddar am ddiswyddo un o'i weinidogion.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd y cyn-brif weinidog, Mark Drakeford: "Dwi ddim yn cytuno mai witch-hunt sydd wedi bod yma."

"Ro'dd un neu ddau o bethau wedi digwydd yn wreiddiol amser yn ôl, ond y broblem oedd bod pethau fel 'na yn dod nôl wythnos ar ôl wythnos ac yn y diwedd o'dd Vaughan wedi dod i'r casgliad bod e'n amhosib iddo fe wneud y pethau roedd e eisiau eu gwneud pan oedd straeon fel 'na yn dal i fod o flaen llygaid pobl.

"Dwi'n cefnogi e yn beth mae wedi gwneud."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyn-brif weinidog, Mark Drakeford nad yw'n cytuno "mai witch-hunt sydd wedi bod yma"

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Dwi wedi gweld sawl cyfnod anodd a phethau anodd o fewn y grŵp Llafur.

"Be sy'n bwysig yw, dyw pobl ddim yn cytuno ar bopeth, y peth pwysig i gadw mewn golwg yw bod ni'n cytuno ar fwy nag y'n ni'n anghytuno.

"Dros yr haf ac i mewn i'r hydref fe fydd rhaid i'r grŵp llafur ddod nôl a chanolbwyntio ar y rhaglen lywodraethu."

Mynnodd Mr Drakeford nad yw'n ystyried dychwelyd fel arweinydd Llafur Cymru, dros dro na chwaith yn fwy hir dymor.

"Dwi ddim yn dod 'nôl. Dwi wedi ymddeol ac yn hapus gyda'r penderfyniad dwi wedi neud," meddai.

Ad-drefnu'r cabinet

Yn dilyn cyfarfod o aelodau'r blaid yn Senedd Cymru, fe gyhoeddodd Mr Gething ddydd Mawrth y byddai'n "dechrau'r broses o gamu i lawr" fel arweinydd Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mewn datganiad personol yng Nghyfarfod Llawn y Senedd, dywedodd y bydd "nawr yn trafod amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd fy mhlaid" a'i fod yn disgwyl i olynydd fod yn ei le "yn gynnar yn yr hydref".

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod disgwyl iddo ad-drefnu'r cabinet yn y dyddiau nesaf.

Yn ôl y cyn-brif weinidog, Mark Drakeford: "Mae'n bwysig cael cystadleuaeth i roi dewis i aelodau Llafur yng Nghymru.

"Dwi'n credu bod angen gwneud pethau yn gyflym. Dwi'n credu bydd sawl aelod o'r cabinet yn meddwl nawr. Mae'n benderfyniad mawr rhoi'ch enw mewn. Mae'n bwysig i roi dyddiau i bobl ystyried rhoi eu henw 'mlaen."

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Mr Gething: "Ar ôl cael fy ethol yn arweinydd fy mhlaid ym mis Mawrth, roeddwn wedi gobeithio y gallai cyfnod o fyfyrio, ailadeiladu ac adnewyddu ddigwydd o dan fy arweinyddiaeth dros yr haf.

"Rwy'n cydnabod nawr nad yw hyn yn bosibl.

"Mae wedi bod yn fraint o'r mwyaf imi wneud y swydd hon hyd yn oed am ychydig fisoedd."

Ychwanegodd: "Mae'r cyfnod hwn wedi bod yn anodd, yn wir yr anoddaf, i mi a'm teulu.

"Mae honni cynyddol, ac iddo gymhellion gwleidyddol, fod rhyw fath o gamwedd wedi digwydd wedi bod yn niweidiol ac yn gyfan gwbl anwir."

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lesley Griffiths a Mick Antoniw, dau o'r aelodau a ymddiswyddodd o'r llywodraeth, yn eistedd tu ôl i Mr Gething wrth iddo wneud datganiad personol i'r Senedd

Y pedwar aelod a gyhoeddodd ddydd Mawrth eu bod yn gadael y llywodraeth oedd Julie James, Lesley Griffiths, Jeremy Miles a'r Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw.

Daeth eu hymadawiad wedi wythnosau o helbul gwleidyddol i Vaughan Gething, a gymerodd yr awenau oddi wrth Mark Drakeford ym mis Mawrth.

Mae Mr Gething wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd, ac wedi cael ei gwestiynu dros gyfraniad i'w ymgyrch o £200,000 gan David Neal, dyn busnes a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

Mae hefyd wedi wynebu cwestiynau ynghylch neges a gafodd ei rhyddhau i'r cyfryngau a ddangosodd iddo ddweud wrth weinidogion eraill yn 2020 ei fod yn dileu testunau o sgwrs grŵp - rhywbeth y gwadodd iddo ei wneud.

Mae ei benderfyniad i ddiswyddo gweinidog yn sgil hynny wedi ychwanegu at y ffraeo.

Gwadodd Hannah Blythyn mai hi oedd ffynhonnell y stori, ond dywedodd Mr Gething fod y dystiolaeth fod y negeseuon wedi dod o'i ffôn yn syml ac ychydig cyn ei ymddiswyddiad, fe gyhoeddodd y dystiolaeth dan sylw.

Pynciau cysylltiedig