Gwariant ar gelfyddydau Cymru 'ar drobwynt'

Mae 'na bryder y gallai mynediad i'r celfyddydau fod o dan fygythiad heb fuddsoddiad digonol, yn ôl cyfarwyddwr artistig Theatr Cymru.

Daw sylwadau Steffan Donnelly wrth i adroddiad newydd gan Bwyllgor Diwylliant y Senedd ddatgelu bod Cymru ymhlith y gwledydd sy'n gwario lleiaf ar wasanaethau diwylliant a chwaraeon drwy Ewrop.

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd bod y celfyddydau yn wynebu cyfnod allweddol.

"Dwi'n meddwl bod ni ar rwy drobwynt yn fa'ma, lle ni'n gweld o ran y gwariant mesur y pen bod ni ail o'r gwaled o holl wledydd Ewrop," meddai.

"Mae rhywbeth angen newid o ran y buddsoddiad hirdymor i weld sector sy'n gynaliadwy."

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: "Byddwn ni'n ystyried cynnwys yr adroddiad ac yn ymateb i'w argymhellion maes o law.

"Mae'r celfyddydau a chwaraeon yn gwneud cyfraniad cymdeithasol ac economaidd pwysig i gymdeithas."