'Cymru'n gwario llai ar ddiwylliant a chwaraeon na'r rhan fwyaf o Ewrop'

Aelodau cast BranwenFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru ymhlith y gwledydd sy'n gwario lleiaf ar wasanaethau diwylliant a chwaraeon drwy Ewrop, meddai adroddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na rybudd y bydd toriadau ariannol yn effeithio ar lwyddiant Cymru ym maes diwylliant a chwaraeon yn y dyfodol.

Mewn adroddiad newydd mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn beirniadu "degawd o doriadau", sy'n golygu fod Cymru ymhlith y gwledydd sy'n gwario lleiaf ar wasanaethau diwylliant a chwaraeon drwy Ewrop.

Mae'r pwyllgor yn galw am fwy o arian gan y Llywodraeth ac yn dweud bod angen paratoi strategaeth ar frys.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y celfyddydau a chwaraeon yn gwneud cyfraniad pwysig i gymdeithas, ac y byddan nhw'n ystyried cynnwys yr adroddiad.

'Amhosib cadw dau ben llinyn ynghyd'

Mae elusen Plant y Cymoedd, sy'n sicrhau cyfleoedd i rai o blant mwyaf difreintiedig Ewrop, ymhlith y rhai sy'n teimlo'r effaith.

"Mae gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y celfyddydau yn effeithio ar ein hartistiaid lleol, ein cymuned lawrydd ac yn bennaf oll y bobl sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau," meddai Miranda Ballin, cyfarwyddwr artistig yr elusen.

"Mae bod yn rhan o'r celfyddydau yn rhoi llais creadigol i bobl, ar adeg pan mae gwir angen amdano, allwn ni ddim fforddio colli hynny nawr."

Mae Nia Wyn Evans o theatr gymunedol Arad Goch yn Aberystwyth hefyd yn poeni.

"Gyda chostau popeth fel cyflogau, trydan, costau teithio a chostau byw yn cynyddu mor gyflym, a'r arian sy'n dod i mewn yn aros yr un fath neu'n lleihau – mae'n amhosib cadw dau ben llinyn ynghyd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na berygl mai dim ond plant o deuluoedd cyfoethog fydd yn gallu cael mynediad at chwaraeon neu ddiwylliant yn y dyfodol," meddai Delyth Jewell AS

Delyth Jewell AS yw cadeirydd y pwyllgor: "Ers yn rhy hir, mae diwylliant a chwaraeon wedi cael eu trin fel pethau 'neis i'w cael', gan wynebu gostyngiadau di-baid mewn cyllid sydd wedi gadael y sectorau hyn yn fregus a heb ddigon o adnoddau.

"Heb newidiadau sylweddol, mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl o ran llwyddiant ym meysydd diwylliant a chwaraeon, gan beryglu ein cymeriad cenedlaethol a llesiant ein cymunedau.

"Heb fuddsoddiad mae 'na berygl mai dim ond plant o deuluoedd cyfoethog fydd yn gallu cael mynediad at chwaraeon neu ddiwylliant yn y dyfodol."

Llynedd fe rybuddiodd Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau, Dafydd Rhys y byddai'r sector yn diflannu o fewn degawd heb ddigon o gefnogaeth ariannol. Fe gyhoeddodd y cyngor adroddiad ar bwysigrwydd  y celfyddydau i'r economi.

Mae adroddiad y Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arian tuag at ddiwylliant a chwaraeon fel bod gwariant y pen yn debycach i'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd tebyg.

Mae hefyd yn gofyn am greu categori gwariant "ataliol" mewn cyllidebau a fyddai'n cydnabod effaith gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon ar les corfforol a meddyliol ac mae'n galw am ddatblygu strategaeth ar gyfer ariannu'r sectorau hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: "Byddwn ni'n ystyried cynnwys yr adroddiad ac yn ymateb i'w argymhellion maes o law.

"Mae'r celfyddydau a chwaraeon yn gwneud cyfraniad cymdeithasol ac economaidd pwysig i gymdeithas.

"Mae setliad ariannol diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn rhoi cyfle i ni roi mwy o arian i'r sectorau yma yn ein cyllideb ddrafft."