Allen: Dod nôl i chwarae i Gymru yn 'benderfyniad hawdd'
Mae Joe Allen wedi dweud bod camu i'r cae yng nghrys coch Cymru unwaith eto wedi gwneud iddo deimlo'n "wych".
Daeth chwaraewr canol cae Abertawe ymlaen fel eilydd yn ystod hanner awr olaf y fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Montenegro yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun.
Dywedodd nad oedd ei ffitrwydd yn "berffaith" ar hyn o bryd ond ei fod o'n benderfynol o wella er mwyn gallu cyfrannu i'r gemau yn erbyn Twrci a Gwlad yr Iâ fis nesa yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Mewn cyfweliad gyda sylwebydd pêl-droed BBC Radio Cymru, Dylan Griffiths, dywedodd Allen fod dychwelyd i bêl-droed rhyngwladol wedi bod yn "benderfyniad weddol hawdd" ar ôl siarad gyda Craig Bellamy.