Dechrau da Bellamy yn parhau gyda buddugoliaeth dros Montenegro

Mae Cymru yn aros yn ail safle eu grŵp ar ôl curo Montenegro nos Lun
- Cyhoeddwyd
Fe enillodd Cymru o 1-0 yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Lun.
Dyma ail fuddugoliaeth i dîm Craig Bellamy yn ei bedwaredd gêm wrth y llyw fel rheolwr.
Roedd gôl gan Harry Wilson yn ddigon i sicrhau'r triphwynt i'r Cymry.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru yn aros yn yr ail safle yng ngrŵp 4 yn ail haen Cynghrair y Cenhedloedd.

Harry Wilson yn sgorio o'r smotyn
Roedd saith newid i'r tîm a ddechreuodd y gêm gyfartal yn erbyn Gwlad yr Iâ, gyda Brennan Johnson a Jordan James ddim ar gael wedi iddyn nhw weld cardiau melyn nos Wener.
Roedd y golwr Karl Darlow yn ennill ei ail gap, tra bod Liam Cullen a Mark Harris yn dechrau gêm gystadleuol i Gymru am y tro cyntaf.
Roedd hi'n ddechrau addawol i dîm Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda'r cyfle da cyntaf yn dod o beniad gan Wes Burns ar ôl croesiad gwych gan Wilson.
Roedd y Cymry'n rheoli'r meddiant, yn adeiladu'n amyneddgar gyda phasio byr o'r cefn.
Ar ôl casgliad o gyfleoedd, daeth unig gôl y gêm gan Wilson ar ôl iddo ennill cic o'r smotyn gyda 10 munud o'r hanner cyntaf yn weddill.

Daeth Joe Allen ymlaen i Gymru yn yr ail hanner am ei gêm gyntaf ers ymddeol o bêl-droed rhyngwladol 18 mis yn ôl
Roedd hi'n ddechrau bratiog i'r ail hanner gyda dau o'r pedwar eilydd a ddaeth ymlaen i Montenegro yn derbyn cerdyn melyn o fewn ychydig funudau.
Cafodd Montenegro eu hergyd gorau o'r gêm 10 munud i mewn i'r ail hanner, gyda'r eilydd Andrija Radulovic yn torri i mewn ar ei droed chwith a'n taro'r trawst o du allan i'r cwrt cosbi.
Ond roedd Cymru yn ôl ar y droed flaen eiliadau'n ddiweddarach gyda'r tîm yn dod yn agos at sgorio ail gôl ar ôl rhediad campus gan Burns.
Roedd yr ail hanner yn fwy cystadleuol ar y cyfan, ond ni chafodd yr ymwelwyr yr un ergyd ar y targed am y 90 munud cyfan.
Daeth Joe Allen, Sorba Thomas, Nathan Beoadhead, Ollie Cooper a Kieffer Moore ymlaen i Gymru yn yr ail hanner.
Bydd Cymru'n wynebu Twrci oddi cartref yng ngêm nesaf yr ymgyrch, dydd Sadwrn 16 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2024