'Chwyldro' yn y dull o brofi am ganser yr ysgyfaint

Fe allai miloedd o bobl elwa yn sgil yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "chwyldro" yn y dull o brofi am ganser yr ysgyfaint.

Mae canser yr ysgyfaint yn lladd mwy o bobl yng Nghymru nag unrhyw fath arall o ganser gydag oddeutu 1,900 yn marw bob blwyddyn.

Ond mae prawf gwaed arloesol, sy'n caniatáu i feddygon ddeall a dadansoddi cod geneteg canser, bellach yn cael ei gynnig i gleifion ar draws Cymru a'r gobaith yw y gall arwain at well triniaethau.

Bu farw David Lewis, brawd Annmarie Thomas, naw mis ar ôl cael diagnosis o ganser ar yr ysgyfaint oedd wedi ymledu.

"Ma’ dwy flynedd wedi mynd heibio ond mae'r boen dal cynddrwg heddi â'r diwrnod y collon ni fe," meddai Ms Thomas.

Yn ôl Dr Siân Morgan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Genomeg Cymru Gyfan, mae’r amser rhwng cael symptomau a derbyn triniaeth yn bwysig iawn.

"Gyda chanser yr ysgyfaint mae cleifion yn gallu gwaethygu mor gyflym. Felly mae amser yn hollbwysig - yr amser rhwng bo' claf yn dod i weld meddyg teulu â symptomau a'r cyfnod pan fo nhw'n cael y triniaethau pwysig yma," meddai.

"Ni'n neud y prawf yma ar y gwaed ac edrych ar 500 o enynnau i bigo lan beth sydd angen ar y claf a ni'n gwneud hynny mewn un prawf.

"Ni'n gallu edrych am wahanol deuluoedd o ganser mewn un prawf - a dyna beth sy'n wahanol."