'Potensial aruthrol' dull newydd o brofi am ganser yr ysgyfaint
- Cyhoeddwyd
Fe allai miloedd o bobl elwa yn sgil yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "chwyldro" yn y dull o brofi am ganser yr ysgyfaint.
Mae canser yr ysgyfaint yn lladd mwy o bobl yng Nghymru nag unrhyw fath arall o ganser gydag oddeutu 1,900 yn marw bob blwyddyn.
Mae'n ganser all ddatblygu'n gyflym ac mae'r cyfraddau yn uwch mewn cymunedau difreintiedig.
Ond mae prawf gwaed arloesol, sy'n caniatáu i feddygon ddeall a dadansoddi cod geneteg canser, bellach yn cael ei gynnig i gleifion ar draws Cymru a'r gobaith yw y gall arwain at well triniaethau.
'Odd e'n joio bod yn ffermwr'
Yn amaethwr o'i ben i'w sodlau fe dreuliodd David Lewis neu Dai Coed Cyw, fel oedd yn cael ei adnabod, ei fywyd yn edrych ar ôl y da, y defaid a'r dofednod ar fferm y teulu ger Llanon, Sir Gaerfyrddin.
Mae gan ei chwaer, Annmarie Thomas, atgofion melys ohono.
"Odd y tancer llaeth yn cyrraedd am 06:00 felly oedd codi'n fore ddim yn broblem i David," dywedodd.
"Odd e'n joio mynd i'r clwb ffermwyr ifanc, y mart yn Gaerfyrddin - do'dd dim un diwrnod yr un peth â'r llall."
Ond fe ddirywiodd iechyd David yn gyflym ag yntau ond yn 53 mlwydd oed.
"Roedd e wedi dioddef o chest problems ac asthma erioed felly odd e'n anodd gweld bod rhywbeth o'i le.
"Ond o'n i'n gweld bod e'n colli pwysau ac yn blino. Aeth e i weld meddyg teulu ac wy'n credu o'dd e'n sylweddoli bod rhywbeth mawr o'i le."
Roedd amheuon David yn gywir. Roedd ganddo ganser yr ysgyfaint oedd wedi ymledu.
"Fe oedd wedi ymdopi â'r newyddion y gorau ohonon ni gyd fi'n credu," meddai ei chwaer.
"O'dd dal gobaith 'da fe. O'dd yr oncologist yn dweud bod y driniaeth wedi gwella cymaint dros y blynyddoedd - falle gele fe cwpwl o flynyddoedd arall.
"Yn anffodus naw mis ar ôl y diagnosis fe gollon ni fe.
"Ma’ dwy flynedd wedi mynd heibio ond mae'r boen dal cynddrwg heddi â'r diwrnod y collon ni fe."
Un o'r rhesymau pam fod canser yr ysgyfaint yn lladd cymaint yw y gall ddatblygu'n gyflym, hyd yn oed cyn bod rhywun yn dangos symptomau.
Ond mae yna amryw o driniaethau bellach ar gael all arafu neu atal twf y canser os yw meddygon yn deall ei union natur.
Fe allai'r prawf gwaed newydd ganiatáu iddyn nhw wneud hynny yn llawer cyflymach na'r dulliau traddodiadol.
'Amser yn holl bwysig'
Yn ôl Dr Siân Morgan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Genomeg Cymru Gyfan, mae’r amser rhwng cael symptomau a derbyn triniaeth yn bwysig iawn.
Esboniodd Dr Morgan: "Gyda chanser yr ysgyfaint mae cleifion yn gallu gwaethygu mor gyflym. Felly mae amser yn holl bwysig - yr amser rhwng bo' claf yn dod i weld meddyg teulu â symptomau a'r cyfnod pan fo nhw'n cael y triniaethau pwysig yma.
"Ni'n neud y prawf yma ar y gwaed ac edrych ar 500 o enynnau i bigo lan beth sydd angen ar y claf a ni'n gwneud hynny mewn un prawf.
"Ni'n gallu edrych am wahanol deuluoedd o ganser mewn un prawf - a dyna beth sy'n wahanol."
Ar ôl cael ei dreialu mewn dwy ardal yn ne Cymru ers 2023, fel rhan o gynllun dan arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae'r prawf bellach ar gael i unrhyw glaf os oes amheuaeth fod ganddyn nhw ganser yr ysgyfaint Gradd 3 neu 4.
Sut mae'r prawf yn gweithio?
Fel arfer mae meddygon yn ceisio darganfod mwy am ganser drwy gymryd sampl o diwmor o'r corff ac yna ei astudio.
Ond fe all y profion biopsi yma fod amhleserus neu achosi niwed, ac weithiau gall meddygon gael trafferth casglu sampl os yw'r tiwmor mewn lleoliad lletchwith
Ond wrth i gelloedd canser ddatblygu maen nhw'n rhyddhau darnau bach o'u DNA i mewn i waed y claf a mae'r prawf newydd newydd yn chwilio am y rhain.
O wybod beth yn union yw cod geneteg y canser gall meddygon ddewis pa fath o driniaeth allai weithio orau.
Gall y prawf hefyd fonitro pa mor effeithiol yw unrhyw driniaeth.
'Chwyldro go iawn'
Yn ôl arbenigwyr gallai'r profion yma arwain at "chwyldro" gyda gwaith eisoes yn digwydd i ymestyn y profion ar gyfer mathau eraill o ganser.
Y gobaith yn y pen draw yw defnyddio profion tebyg i sgrinio am ganser.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Griffiths, Cyfarwyddwr Arloesi Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, bod y potensial yn "aruthrol".
"Dyna'r trywydd ar gyfer y dyfodol - galluogi i bobl ddarganfod canser cyn bo symptomau hyd yn oed arnyn nhw, a'r cynharaf mae rhywun yn dechrau triniaeth y gorau," meddai.
"Mae'r potensial i allu gwneud hynny ar gyfer pob mathau o ganser yn aruthrol - a byddai hynny'n chwyldro go iawn."
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019
'Angen gwneud lot mwy'
Ond mae arbenigwyr hefyd yn rhybuddio fod yna heriau mawr i hyd o ran gofal canser yng Nghymru gyda thargedau amseroedd aros yn cael eu methu a chyfraddau marwolaethau uwch yma na sawl gwlad arall.
"Mae'n rhaid i ni gydnabod wrth edrych yn rhyngwladol ein bod ni dipyn y tu cefn i wledydd tebyg i Gymru," medd Dr Griffiths.
"Ma' angen mwy o staff a chyfarpar a phob math o bethau pwysig o ran trin canser. Mae arloesedd yn rhan o'r pictiwr yna, yn rhan bwysig.
“Ond dyw e ddim yn fwled sy'n galluogi ni fynd i'r afael â'r holl broblemau."
'Byd o wahaniaeth'
Mae cyflwyno'r profion newydd wedi dibynnu'n rhannol ar ymdrechion i godi arian.
Yn ystod y ddwy flynedd ers colli ei brawd mae Annmarie, gyda chymorth cymdogion a ffrindiau fferm Coed Cyw, wedi bod yn weithgar yn casglu ar gyfer ymchwil canser.
"Nath David ofyn i fi addo y bydden ni'n dal ati i geisio helpu cleifion a theuluoedd eraill," meddai Annmarie.
A dyna pam ei bod wrth ei bodd yn clywed am y profion newydd.
"Am naw mis diwethaf ei fywyd o'dd David yn dal i weithio ar y fferm... o'dd e ddim yn iach ond o'dd e'n ymdopi... Dim ond am chwech, wyth wythnos cyn i ni ei golli fe aeth pethe'n wael iawn.
"Felly os yw triniaeth yn gallu helpu pobol i gael safon o fyw, a bod gyda'u teuluoedd nhw am amser hirach - byddai hynny'n gwneud byd o wahaniaeth."