Angharad James: 'Pwysig rhoi croeso i chwaraewyr newydd'

Mae chwaraewr canol cae Cymru Angharad James wedi pwysleisio pwysigrwydd croesawu chwaraewyr ifanc i'r garfan.

"Dwi'n gwybod fel maen nhw'n teimlo," meddai wrth edrych ymlaen at gêm Cymru yn erbyn Croatia ddydd Gwener.

"Pan 'nes i ddod mewn i'r environment yma, o'dd chwaraewyr fel Lauren Dykes a Lauren Harries, 'naeth nhw roi braich o amgylch fi ac yn syth ma' hwnna'n 'neud sut gymaint o wahaniaeth."

Bydd yn rhaid i dîm pêl-droed merched Cymru sicrhau buddugoliaethau yn erbyn Croatia yn Zagreb nos Wener, a gartref yn erbyn Kosovo yr wythnos nesaf, er mwyn sicrhau eu bod yn gorffen ar frig eu grŵp yng ngemau rhagbrofol Euro 2025.