Croatia v Cymru: 'Dim esgusodion' i dîm Wilkinson

Disgrifiad,

Yn siarad gyda'r wasg pwysleisiodd Angharad James y pwysigrwydd o groesawu chwaraewyr newydd i'r garfan

  • Cyhoeddwyd

Bydd yn rhaid i dîm pêl-droed merched Cymru sicrhau buddugoliaethau yn erbyn Croatia yn Zagreb nos Wener, a gartref yn erbyn Kosovo yr wythnos nesaf, er mwyn sicrhau eu bod yn gorffen ar frig eu grŵp yng ngemau rhagbrofol Euro 2025.

Fydd yna "ddim esgusodion", yn ôl y prif hyfforddwr Rhian Wilkinson, os nad ydyn nhw’n llwyddo i wneud hynny.

Yr ymosodwr Ceri Holland fydd yn gapten yn Croatia, a hi fydd y pumed chwaraewr mewn pum gêm i wisgo’r rhwymyn, wrth i Wilkinson barhau i bendroni ar gapten parhaol wedi i Sophie Ingle gamu nôl o’r rôl.

Mi fydd yr amodau yn heriol allan yn Zagreb, wrth i’r tymheredd uchaf gyrraedd bron i 35C dros y dyddiau nesaf.

Ond yn ôl Wilkinson does dim modd defnyddio hynny, na’r ffaith bod y rhan fwyaf o’r chwaraewyr ar eu cyfnod gorffwys wedi i’r tymor domestig ddod i ben, fel esgus os nad ydy’r canlyniad yn mynd o’u plaid nos Wener.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyliadau uchel gan Rhian Wilkinson wedi gêm gyfartal Cymru yn erbyn Wcráin

“Roedd y gêm gyfartal yn erbyn Wcráin y tro diwetha' yn ergyd,” medd Wilkinson wrth y BBC.

“Ond, mae’n ein hatgoffa ni na chawn ni unrhywbeth ar blât, ac mae’n rhaid i ni weithio’n galed am bopeth.

“Felly, os mai’r sialens ydy’r gwres neu’r ffaith ein bod ni’n cyfarfod rhai o’r chwaraewyr yma, fel i mi ddweud yn gynt yn yr ymgyrch, does dim esgusodion.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ceri Holland fydd capten Cymru nos Wener

Fe deithiodd tîm Cymru o Gaerdydd i Zagreb brynhawn Mercher, ond heb Jess Fishlock, Angharad James a Lily Woodham – gan eu bod wedi chwarae dros eu clwb Seattle Reign yn yr Unol Daleithiau ddydd Sul.

Ond maen nhw wedi cwrdd â’r garfan yn Croatia.

Wedi’r ddwy gêm gyfartal yn erbyn Wcráin fis diwethaf, bydd angen i’r tîm fod ar eu gorau er mwyn sicrhau buddugoliaethau yn y ddwy gêm nesaf, a hynny yn y gobaith o orffen ar frig grŵp B4 a sicrhau llwybr mwy caredig i gyrraedd Euro 2025 trwy'r gemau ail gyfle.

Byddai hynny hefyd yn sicrhau dyrchafiad i brif adran Cynghrair y Cenhedloedd ar gyfer ymgyrch 2025/26.