Y golygfeydd ym Mhontypridd wedi llifogydd difrifol
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a'r gwasanaethau brys yn trin y llifogydd yn yr ardal fel "digwyddiad difrifol" wrth i Storm Bert achosi trafferthion sylweddol.
Dywedodd llefarydd bod effaith y llifogydd yn ymddangos "yn fwy sylweddol na'r difrod yn ystod Storm Dennis" yn 2020.
Ym Mhontypridd, mae trigolion yn clirio dŵr o'u cartrefi a busnesau wedi i Afon Taf orlifo'i glannau yn sgil glaw trwm.
Mae'r cyngor yn rhagweld bod y llifogydd wedi effeithio ar rhyw 100 o gartrefi a busnesau a bod rhai o adeiladau'r Cyngor, gan gynnwys Lido Pontypridd a Theatr Parc a'r Dâr, wedi eu difrodi.
Dywedodd llefarydd hefyd bod llifogydd wedi effeithio ar rai ysgolion ac y byddan nhw'n cysylltu â theuluoedd gyda rhagor o wybodaeth.