Storm Bert: 'Digwyddiad difrifol' yn Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a'r gwasanaethau brys yn trin y llifogydd yn yr ardal fel "digwyddiad difrifol" wrth i Storm Bert achosi trafferthion sylweddol.
Dywedodd llefarydd bod effaith y llifogydd yn ymddangos "yn fwy sylweddol na'r difrod yn ystod Storm Dennis" yn 2020.
Ym Mhontypridd, mae trigolion wedi bod yn clirio dŵr o'u cartrefi a busnesau wedi i Afon Taf orlifo'i glannau yn sgil glaw trwm.
Mewn cynhadledd i'r wasg brynhawn Sul, dywedodd arweinydd y cyngor sir, Andrew Morgan bod y llifogydd wedi effeithio ar rhwng 200 a 300 o dai a busnesau'r dref.
Mae rhai o adeiladau'r Cyngor wedi eu difrodi hefyd, gan gynnwys Lido Pontypridd a Theatr Parc a'r Dâr.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod llifogydd wedi effeithio ar rai ysgolion ac y byddan nhw'n cysylltu â theuluoedd gyda rhagor o wybodaeth.
Mae pedair canolfan loches wedi eu hagor yn y sir.
Cafodd canolfan loches ei agor yng Nghwmtyleri nos Sul, wedi i nifer o bobl cael eu symud o'u tai yn dilyn llifogydd yn yr ardal, meddai Cyngor Blaenau Gwent.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "meddwl am y rhai gafodd y taro" gan annog pobl "i gymryd gofal dros y dyddiau nesaf a dilyn cyngor swyddogol".
Yn Nyffryn Conwy, mae'r heddlu fu'n chwilio am ddyn oedd ar goll ger Trefriw wedi dod o hyd i gorff.
Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau a gwasanaethau brys eraill eu galw nos Sadwrn i ddod o hyd i Brian Perry, 75, aeth ar goll tra'n mynd â'i gi am dro gyda'i wraig yn ystod tywydd garw Storm Bert.
Dyw'r corff heb ei adnabod yn swyddogol ond mae swyddogion wedi cysylltu â theulu Mr Perry.
Yn ôl arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan roedd tywydd y penwythnos yn waeth na'r rhagolygon, ac mae'n dweud ei fod "yn rhyfeddu" nad oedd y rhybudd yn un oren yn hytrach na melyn.
"Roeddan ni'n paratoi am rybudd oren... ni ddaeth hwnnw ond fe wnaethon ni benderfynu ein hunain i drefnu mwy o adnoddau, agor ein canolfannau a threfnu criwiau."
Ychwanegodd bod yr afon wedi gorlifo'i glannau yn Aberafan, Aberpennar ac Abercynon, yn ogystal ag ym Mhontypridd.
"Rydym wedi dosbarthu miloedd o fagiau tywod, ond unwaith yn rhagor mae difrifoldeb y tywydd wedi bod yn llethol."
Dywedodd Mr Morgan hefyd bod y dirprwy brif weinidog, Huw Irranca-Davies wedi ymweld â Phontypridd ddydd Sul a bod swyddfa'r prif weinidog wedi cysylltu i ofyn "am y sefyllfa ddiweddaraf a pha gymorth sydd ei angen".
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd fod eu "rhagolygon i Storm Bert yn dda" ac wedi dod 48 awr ymlaen llaw, gyda "nifer o rybuddion yn eu lle" cyn i'r storm ddechrau yn y DU.
"Roedd y rhybuddion ar gyfer Cymru yn amlygu’r potensial i gartrefi a busnesau orlifo â dŵr llifogydd cyflym neu ddŵr dwfn, gan achosi perygl i fywyd."
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd y bydd "asesiad llawn o'r strategaeth rhagolygon a rhybuddio yn cael ei gynnal gyda'n partneriaid".
Wrth siarad gyda'r BBC nos Sul dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Mae'n ofnadwy gweld bod hyn wedi taro cymunedau oedd eisioes wedi cael eu taro ychydig o flynyddoedd yn ôl."
Dywedodd ei bod yn "diolch i'r rhai sy'n gweithio'n galed i ddiogelu ni", gan annog pobl i gymryd gofal a dilyn cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru, cynghorau lleol a'r gwasanaethau brys.
'Mae'n dorcalonnus yma'
Dywedodd Jayne Rees, sy'n byw ym Mhontypridd, bod y sefyllfa yn "dorcalonnus".
"O'n i wir ddim yn disgwyl gweld golygfeydd fel hyn eto, yn enwedig ar ôl Storm Dennis.
"Dydw i ddim yn credu bod unrhywun yn disgwyl codi bore 'ma a gweld y golygfeydd fel ni wedi gweld yma yn y dre'."
Dywedodd Wyn Jones, sy'n byw ar Ffordd Berw ym Mhontypridd: "Ni'n gwybod bod dros wyth neu naw o dai wedi cael y dŵr wedi mynd mewn iddyn nhw.
"O'n i'n siarad gyda rhywun oedd yn dweud mai jyst dod dros yr un dwetha ma' nhw a newydd cywiro'r tŷ maen nhw... o'n nhw'n llefen."
Dywedodd John Pockett, sy'n byw ym Mhontypridd, nad oedd "neb yn disgwyl iddi fod mor gynddrwg... felly mae'n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru neu Llywodraeth Cymru neu bwy bynnag edrych ar y system fel bod mwy o rybudd i bobl".
'Rhaid i ni edrych ar be sy' wedi digwydd'
Dywedodd Sian Williams o Cyfoeth Naturiol Cymru: "Da ni wedi gweld glaw andros o drwm yn taro sawl man ond y glaw trymaf yn y de a'r de ddwyrain felly 'da ni wedi gweld lefel yr afonydd yn yr ardaloedd hynny yn codi'n sylweddol yn sgil y glaw sydd wedi disgyn.
"'Da ni wedi bod yn gweithio efo'n partneriaid ni yn diogelu cymunedau, yn rhoi rhybuddion i bobl a mae cwestiynau bob tro os fysa pethau'n gallu cael eu gwneud yn wahanol ac yn well.
"Nid rwan ydi'r amser i ateb y cwestiynau hynny. Mae'n rhaid i ni edrych ar hynny yn y dyfodol ac edrych ar be' a sut mae pethau wedi digwydd ac edrych efo'n partneriaid i weld os fysa pethau'n gallu cael eu gwneud yn wahanol neu'n well yn y dyfodol."
Roedd difrod sylweddol i Glwb y Bont ym Mhontypridd yn ystod Storm Dennis ond dydy hi ddim yn glir eto pa effaith mae'r llifogydd wedi ei gael ar yr adeilad y tro yma.
Dywedodd Wil Morus Jones o'r Clwb: "Mi ddown ni yma fory [ddydd Llun] i weld os bydd angen glanhau... does dim pwynt heddiw achos mae cryn dipyn o ddŵr yn amgylchynu'r lle."
Mae AS Plaid Cymru Canol De Cymru, Heledd Fychan, ymhlith y rhai sydd wedi ymgyrchu dros gamau cryfach i ddiogelu cymunedau fel Pontypridd ac am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i achosion llifogydd yng Nghymru.
"Mae fy meddyliau yn bennaf gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd dros nos," dywedodd.
"Wrth i lifogydd ddod yn fwy eithafol a niferus, rhaid sicrhau y tro hwn bod gwersi'n cael eu dysgu, a bod mwy o gefnogaeth yn cael ei roi i gymunedau."
Mae hi wedi ysgrifennu at weinidogion Llywodraeth Cymru yn galw am ddatganiad brys mewn ymateb i llifogydd y penwythnos.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: "Er bod y llifogydd wedi cael effaith sylweddol, mae'n ymddangos bod yr amddiffynfeydd wedi cyfrannu at y gwaith o warchod nifer o gartrefi a busnesau.
"Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi i ddiogelu cymunedau yn ystod tywydd garw yn y dyfodol."
Mae sawl rhybudd melyn am dywydd garw wedi bod mewn grym dros y penwythnos yng Nghymru yn sgil ail storm fawr y tymor - dau am law trwm ac un am wyntoedd cryfion.
Yn ystod y dydd roedd dros 100 o rybuddion llifogydd, dolen allanol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod mewn grym, gyda tua hanner o'r rheiny'n rybuddion coch.
Yn ôl y National Grid, roedd tua 1,300 o adeiladau yn ne a gorllewin Cymru heb gyflenwad am 06:30 wrth i Storm Bert barhau i greu amodau heriol.
Erbyn tua 16:00 nifer yr adeiladau heb drydan wedi gostwng i lai na 400 - gyda'r niferoedd uchaf yn Sir Gâr (144) a Sir Castell-nedd Port Talbot (63).
Roedd llifogydd hefyd yn siroedd Caerffili a Chasnewydd, a thirlithriadau yn siroedd Wrecsam a Phowys.
Roedd yna broblemau oherwydd llifogydd hefyd yn Ffynnon Taf, Porth, Ynysybwl, Merthyr Tudful ac Aberdâr.
Cafodd canolfannau lloches eu trefnu yn Rhondda Cynon Taf - yng Nghanolfan Hamdden Ystrad Sports, Rhondda, Llyfrgell Pontypridd, Canolfan Hamdden Sobell yn Aberdâr a Chanolfan Fowlio Cwm Cynon.
Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi cyngor i bobl ferwi eu dŵr cyn ei ddefnyddio i yfed neu goginio yng nghymoedd y de wedi i broblem ddod i'r amlwg yng ngwaith trin dŵr Tynywaun yn sgil y storm.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i drigolion ym Mlaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Pentre, Ton Pentre, Gelli a Thonypandy.
Yn ôl Dŵr Cymru, am 13:00 ddydd Sul, roedd hynny'n effeithio ar 12,000 o gwsmeriaid.
Yn ogystal â thrafferthion ar y ffyrdd, fe gafodd rhai teithiau trên eu canslo neu eu gohirio, gan achosi trafferthion i deithwyr o Bontypridd o Dreherbert ac Aberdâr, rhwng Llanhiledd a Glynebwy, Y Fenni a Phont-y-pŵl.
Syrthiodd goeden ar draws y lein rhwng Rhymni a gorsaf Canol Caerdydd gan atal teithiau tan ddechrau'r prynhawn.
Daeth rhybudd melyn am law trwm ar draws Cymru gyfan i ben am 06:00 y fore Sul ond ac fe gyhoeddodd y Swyddfa Dywydd un newydd ar gyfer rhannau o'r de tan 13:00.
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryf mewn grym tan 21:00 nos Sul, a all achosi amodau "peryglus" ar hyd arfordir de, gorllewin a gogledd orllewin Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024