Pris tai yn 'mynd lan a lan a lan' cyn prynu tŷ cyntaf

Yn ôl Meaghan Elliott, 28, sydd newydd brynu ei thŷ cyntaf, mae gweld prisiau tai yn codi "mor ddigalon".

Ar ôl arbed arian am chwe blynedd, mae hi a'i chariad yn gobeithio cael allweddi ar gyfer eu tŷ cyntaf yn Y Porth, Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener.

Mae pris tŷ yng Nghymru wedi codi i £238,483 ar gyfartaledd, yn ôl ffigyrau diweddaraf Cymdeithas Adeiladu'r Principality.

Mae hynny'n gynnydd o 4% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Er hynny, mae'r darlun yn gymysg gyda rhai o siroedd y de yn gweld cynnydd mawr tra bod ardaloedd mwy gwledig wedi gweld gostyngiad.

Mae'r Principality yn dweud mai ardaloedd Pen-y-bont, Blaenau Gwent a Chaerffili yn y de sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf, gyda'r "prisiau uchaf ar gofnod" rhwng mis Ionawr a Mawrth eleni.