'Edrych ymlaen symud i'n tŷ cyntaf' wrth i brisiau tai godi

Meaghan Elliott
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meaghan Elliott yn dweud bod gweld prisiau tai yn codi "mor ddigalon" i bobl sy'n prynu eu tŷ cyntaf

  • Cyhoeddwyd

Mae pris tŷ yng Nghymru wedi codi i £238,483 ar gyfartaledd, yn ôl ffigyrau diweddaraf Cymdeithas Adeiladu'r Principality.

Mae hynny'n gynnydd o 4% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Er hynny, mae'r darlun yn gymysg gyda rhai o siroedd y de yn gweld cynnydd mawr tra bod ardaloedd mwy gwledig wedi gweld gostyngiad.

Mae'r Principality yn dweud mai ardaloedd Pen-y-bont, Blaenau Gwent a Chaerffili yn y de sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf gyda'r "prisiau uchaf ar gofnod" rhwng mis Ionawr a Mawrth eleni.

Yn ôl Meaghan Elliott, 28, sydd newydd brynu ei thŷ cyntaf, mae gweld prisiau yn codi "mor ddigalon".

Ar ôl arbed arian am chwe blynedd, mae hi a'i chariad yn gobeithio cael allweddi ar gyfer eu tŷ cyntaf yn Y Porth, Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener.

"O'dd partner fi'n hoffi'r syniad o rywle fel Eglwys Newydd neu ardal Pontypridd neu Llantrisant ond o'dd prisiau yn yr ardaloedd yna lot lot fwy na lan fan hyn," meddai.

Mae'n dweud ei bod hi wedi gobeithio "y byddai prisiau wedi disgyn tipyn bach yn fwy ond ni mewn sefyllfa nawr lle ni eisiau tŷ ein hunain ac o'dd prisiau yn mynd lan a lan.

"Nawr yw'r amser - ni ddim yn gwybod be sy'n mynd i ddigwydd nesa - ma'r farchnad yn unpredictable.

"Ni di bod trwy'r holl beth o gweld prisiau tai yn codi - mae hynny mor ddigalon pan chi eisiau symud ymlaen at y step nesa yn bywyd chi felly fi'n gobeithio neith prisiau ddisgyn fel bod e'n haws camu ar y property ladder."

'Tipyn bach o ofn'

Dywedodd Meaghan ei bod hi a'i chariad "yn gyffrous" am symud i'w thŷ cyntaf ond bod "tipyn bach o ofn yna".

"Mae'n huge responsibility a mae lot i ddysgu achos does neb yn dysgu chi be chi fod i neud a sut i dalu bills."

Mae Meaghan yn dweud bod cynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru wedi bod "yn help mawr" wrth iddyn nhw brynu eu tŷ cyntaf.

"Ni 'di gallu rhoi'r deposit lawr yn dibynnu ar y bonws yna sy'n dod nôl aton ni, achos pan ti'n prynu tŷ nid jyst y deposit yw e.

"Mae angen cael pethau i'r tŷ, costau cudd - solicitors, searches - o'n i ddim gyda cliw am bethau fel'na felly mae'r cynllun wedi helpu ni i brynu nawr yn lle wedyn."

 Amelie John sy'n gweithio i Asiantaeth Gwerthu Tai Peter Alan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Amelie John o gwmni gwerthu tai Peter Alan fod pobl sy'n gweithio ym Mryste wedi prynu tŷ yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr

Y sir sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn prisiau tai yw Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd cynnydd o 11% mewn blwyddyn mewn prisiau tai yno, gyda chynnydd o 6.8% ym Mlaenau Gwent a 6.6% yng Nghaerffili.

Mae Amelie John yn gweithio i Asiantaeth Gwerthu Tai Peter Alan ym Maesteg sydd yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd: "Ni wedi gweld yr increase mwyaf yn Pencoed ar y foment oherwydd mae 'na station yna a mae'n lleoliad perffaith i rai pobl.

"Maen nhw'n gallu mynd syth ar yr M4 - mae'n agos at Gaerdydd a ti'n gallu mynd ffordd arall i Bridgend.

"Mae llawer o bobl yn hoffi bod yn agos at Ben-y-bont ond ddim rhy agos felly mae'n un o'r lleoliadau mwyaf poblogaidd."

Dywedodd hefyd bod pobl sy'n gweithio ym Mryste wedi prynu tŷ yn yr ardal.

"Mae mor hawdd mynd o Pencoed neu Pen-y-bont a mynd syth ar yr M4" i Fryste.

Rhes o daiFfynhonnell y llun, BBC Images

Er bod y Principality yn dweud bod "heriau'n parhau" wrth edrych ar ba mor fforddiadwy yw tai, maen nhw'n dweud bod y ffigyrau yn profi bod "hyder prynwyr yn parhau i gynyddu".

Ychwanegodd Iain Mansfield, prif swyddog ariannol y gymdeithas: "Er gwaethaf nifer o ffactorau fel costau byw, chwyddiant a phwysau byd-eang ar yr economi, mae'r farchnad dai yng Nghymru yn dal i symud yn ei blaen i gyfeiriad cadarnhaol."

Mae nifer y tai sydd wedi eu gwerthu hefyd wedi cynyddu.

Gyda'r gostyngiad diweddar mewn cyfraddau llog a'r awgrym y bydd Banc Lloegr yn torri cyfraddau eto eleni, mae hynny'n golygu fod morgeisi ychydig yn rhatach erbyn hyn.

Prisiau'n gostwng mewn rhai ardaloedd

Er bod 13 awdurdod lleol wedi gweld cynnydd blynyddol mewn prisiau, mae gostyngiad wedi bod mewn naw ardal, yn ôl y ffigyrau.

Un o'r ardaloedd welodd ostyngiad mewn prisiau oedd Ceredigion, lle'r oedd prisiau ym mis Ionawr a Mawrth eleni 10% yn is na rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd.

Yn ôl adroddiad y Principality, mae rhai arbenigwyr yn dweud mai newid mewn polisïau yw un o'r rhesymau am hynny, gan gynnwys newidiadau Llywodraeth Cymru i dreth cyngor ail gartrefi.

Pynciau cysylltiedig