'Dolur calon' gweld capel Princes Road, Lerpwl
Mae cyflwr "truenus" capel Princes Road yn Lerpwl wedi sbarduno galwadau i'w ailddatblygu ar gyfer y gymuned.
Gyda thŵr 200 troedfedd o uchder, ac yn ganolbwynt i gymdeithas Gymreig y ddinas, y capel a oedd yn cael ei adnabod fel Fatican Cymry Lerpwl oedd yr adeilad talaf yn Lerpwl pan gafodd ei godi yn 1867.
Llais y Parchedig D Ben Rees oedd un o'r olaf i'w glywed o'r pulpud gan iddo bregethu yn ystod y gwasanaeth olaf yn Princes Road union hanner can mlynedd yn ôl.
Mae'n dweud fod cyflwr presennol yr adeilad yn "drueni aruthrol".
"Mae'n ddolur calon... fel pe bai chi'n galaru ar ôl rhywun," meddai.