'Ofnadwy o drist gweld Fatican Cymry Lerpwl mewn cyflwr truenus'

Mae'r to wedi syrthio gan adael adeilad capel Princes Road yn agored i'r elfennau
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwr "truenus" un o'r capeli Cymreig mwyaf y tu allan i Gymru wedi sbarduno galwadau i'w ailddatblygu ar gyfer y gymuned.
Gyda thŵr 200 troedfedd o uchder, ac yn ganolbwynt i gymdeithas Gymreig y ddinas, capel Princes Road oedd yr adeilad talaf yn Lerpwl pan gafodd ei godi yn 1867.
Yn dal 1,300 o bobl, mae'r capel wedi ei ddisgrifio dros y blynyddoedd fel 'Fatican y Cymry', ac hyd heddiw yn Lerpwl fel "the Welsh Cathedral" - er na fuodd yr adeilad erioed yn gadeirlan.
Ond gyda chynlluniau i ailddatblygu wedi methu, a'r to bellach wedi syrthio, mae rhai o Gymry amlwg yr ardal yn galw am weithredu brys.

Mae Neil Wyn Jones wedi ei fagu ar Lannau Mersi
Mae Neil Wyn Jones, sydd wedi ei eni a'i fagu ar Lannau Mersi, yn cofio ei daid yn mynychu capel Princes Road sydd yn ardal Toxteth y ddinas.
Ond mae'n dweud fod cyflwr y capel, sydd wedi bod ar gau ers yr 80au, wedi dirywio'n sylweddol.
Dywedodd ei fod yn cofio'i daid yn sôn am weld ambell i "bregethwr enwog yn eu dydd ac ambell waith methu cael mynediad achos oedd 'na gymaint o bobl wedi troi i fyny".
"Mi oedd 'na gymuned enfawr o Gymry yma ar un adeg ond wnaeth y gymuned ymledu dros Lerpwl," meddai.
"Ar un adeg oedd o fath â symbol o'r Gymraeg yn y ddinas achos oedd o'n adeilad mor drawiadol."
'Safle yn parhau i fod yn ddiogel'
Princes Road oedd capel mwyaf erioed y Methodistiaid Calfinaidd, gyda digon o le ar gyfer tua 1,300 o addolwyr, ac erbyn 1900 roedd 90 capel Cymraeg yn y ddinas.
Ond fe gafodd y gwasanaeth Cymraeg olaf ei gynnal yno yn 1975 wrth i'r llif o Gymry Cymraeg o ogledd Cymru ostwng a llai yn mynychu'r capeli.
Yn yr 80au cafodd ei werthu i enwad wedi ei leoli yn Nigeria, ond erbyn y 90au roedd yn wag ac mae'r adeilad wedi parhau i ddirywio ers hynny.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae 'na ymdrechion wedi bod dros y blynyddoedd i'w ailddatblygu, gan gynnwys bwriad gan y Merseyside Buildings Preservation Trust i'w drawsnewid yn ganolfan addysgiadol a diwylliannol, dolen allanol.
Ond methodd cais i sicrhau arian gan Gronfa Ffyniant Bro'r Llywodraeth, gan roi terfyn ar y cynlluniau yn 2022.
Ers hynny mae'r adeilad wedi ei werthu i gwmni Audsley Holdings Limited.
Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu gyda'r cwmni, ond heb gael ateb hyd yma.
Y llynedd dywedon nhw wrth bapur lleol y Liverpool Echo eu bod yn gweithio gyda phenseiri treftadaeth arbenigol ac eraill "i weithio tuag at gyflwyno cynllun o'r radd flaenaf".
"Mae'r safle'n parhau i fod yn ddiogel ac mae cwmni lleol wedi'i gomisiynu i fonitro'r safle'n rheolaidd, gan sicrhau ei ddiogelwch," medden nhw ar y pryd.
Ychwanegon nhw bod "symiau sylweddol o gyfalaf" eisoes wedi'i roi fewn i'r cynllun er mwyn "cyflwyno cais cynllunio yn fuan".

Mae'r adeilad wedi dirywio'n sylweddol dros y blynyddoedd

Dywedodd Neil Wyn Jones fod yr adeilad mewn cyflwr "truenus" erbyn hyn ond mae'n debyg y byddai "cost enfawr" o'i adnewyddu.
"Mae'n ofnadwy o drist i weld," meddai.
"Dros y bum mlynedd diwethaf dwi wedi gweld dirywiad mawr, mae'r to wedi mynd i fewn ac er eu bod nhw wedi clirio rhywfaint o'r tir o gwmpas y capel, mae'n drist iawn i'w weld mewn ffasiwn gyflwr.
"Mae'n gapel mor fawr ac oedd o'n cael ei alw'n 'the Welsh Cathedral' oherwydd ei faint - mae'n symbol o Gymreictod yn y ddinas.
"Fasa'n neis cael rhyw gofnod o hynny... Mae'n nodwedd mor bwysig o Toxteth, dwi'n meddwl fasa'n wych i'w ddatblygu at ddefnydd y gymuned."
'Dolur calon'
Llais y Parchedig D Ben Rees oedd un o'r olaf i'w glywed o'r puplud gan iddo bregethu yn ystod y gwasanaeth olaf yn Princes Road union hanner can mlynedd yn ôl.
Yn parhau yn ffigwr amlwg ymhlith Cymry Lerpwl, mae'n dweud fod cyflwr presennol yr adeilad yn "drueni aruthrol".
"Mae'n ddolur calon... fel pe bai chi'n galaru ar ôl rhywun," meddai.

Mae'r Parchedig Dr Rees yn argyhoeddedig ei bod yn "hanfodol" bod yr adeilad yn dod yn ôl at ddefnydd cymunedol
"Oedd Tecwyn Lloyd yn ei galw hi'n 'Fatican y Cymry' ac 'Eglwys Gadeiriol y Cymry' oedd pawb arall yn ei galw hi.
"Dyna oedd y syniad oedd gan y Parchedig David Saunders pan o'dd e'n ceisio symud o Bedford Street i Princes Road, cael eglwys oedd mor hardd ac yn uwch na'r un eglwys arall oedd yn perthyn i'r Saeson na'r Albanwyr na'r Gwyddelod.
"Ond erbyn y 60au roeddech chi'n gweld pobl yn symud allan [o Toxteth] i fyw, roedden nhw'n byw yn Mossley Hill, neu Allerton, Childwall a Woolton, ac felly fe ddigwyddodd y dirywiad.
"Ac yn anorfod erbyn 1975 fu'n rhaid ymuno gyda chapel Bethel lle ro'n i'n weinidog."

Mae olion y Cymry yn parhau yn amlwg yn rhai o enwau strydoedd y ddinas
Ond mae'r Parchedig Dr Rees yn dweud ei bod hi'n "hanfodol" bod yr adeilad yn dod yn ôl i ddefnydd y gymuned.
"Mae angen mawr yn y fan yna ac mae angen i ni'r Cymry hefyd gael rhan ohono fe oherwydd roedd e mor bwysig i'r Cymry.
"Dwi'n dal i geisio pwyso ac ymladd dros cael rhywbeth yn y fan yna i rannu gyda phobl a mudiadau eraill a dwi'n gwybod byddai llawer iawn o ddiddordeb.
"Bydde twristiaid yn barod i ddod pe byddech chi'n cael e'n agored, fel amgueddfa yno, ac mae cannoedd o Gymry yn dod i Lerpwl pob penwythnos a bydde fe'n atyniad iddyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023