Natasha Harding 'heb droi lan a ddim yn siarad â'r clwb'
Mae cyn-seren bêl-droed wedi’i chyhuddo o beidio dychwelyd miloedd o bunnoedd i'w chyd-chwaraewyr, rhieni a noddwyr.
Dywedodd nifer o rieni wrth y BBC eu bod wedi talu am hyfforddiant un-i-un ar gyfer eu plant gan Natasha Allen-Wyatt, Harding gynt.
Ond ar sawl achlysur ni chafodd yr hyfforddiant gan Academi Tash Harding ei ddarparu, ac nid oedden nhw wedi derbyn ad-daliadau.
Mae Ms Allen-Wyatt yn cyfaddef iddi orfod canslo "rhai sesiynau" oherwydd amgylchiadau y tu allan i'w rheolaeth, ac ymddiheurodd i'r rhai a gafodd eu heffeithio.
Roedd Lowri-Mai Phillis, sy'n gwirfoddoli gyda Chlwb Pêl-droed Dreigiau Dâr yn Aberdâr, yn un o'r rhai oedd yn edrych ymlaen yn fawr i hyfforddi gyda Ms Allen-Wyatt.
Fe dalodd y clwb £600 am 10 o sesiynau ond roedd Ms Allen-Wyatt ond yn bresennol ar gyfer dau.
"Roedd y tîm mor gyffrous i gael hi i ddod i wneud be' ma' hi’n 'neud gyda’r plant a rhoi’r wybodaeth a’r cyfle iddyn nhw i fod mor dda ag oedd hi," meddai.
I ddechrau aeth popeth fel y disgwyl, gyda'r plant yn mwynhau'r cyfle i hyfforddi gyda Ms Allen-Wyatt. Ond yna fe newidiodd pethau.
"Ar ôl tipyn bach o amser roedd hi wedi dechrau peidio troi lan a doedd hi ddim yn siarad gyda'r clwb," meddai Ms Phillis.
"Pan doedd hi heb droi lan roedden ni wir yn teimlo'n drist oherwydd roedd y plant wir yn edrych 'mlaen i weld hi ond nawr ma' pawb yn drist."