Teuluoedd a busnesau yn gwneud honiadau yn erbyn cyn-seren bêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-seren bêl-droed wedi’i chyhuddo o beidio dychwelyd miloedd o bunnoedd i'w chyd-chwaraewyr, rhieni a noddwyr.
Dywedodd nifer o rieni wrth y BBC eu bod wedi talu am hyfforddiant un-i-un ar gyfer eu plant gan Natasha Allen-Wyatt, Harding gynt.
Ond ar sawl achlysur ni chafodd yr hyfforddiant gan Academi Tash Harding ei ddarparu, ac nid oedden nhw wedi derbyn ad-daliadau.
Dywedodd rhai rhieni a busnesau wrth y BBC fod cyn-gapten clwb Reading wedi eu rhybuddio y byddai’n cymryd camau yn eu herbyn pe baen nhw’n cwyno ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae Ms Allen-Wyatt yn cyfaddef iddi orfod canslo "rhai sesiynau" oherwydd amgylchiadau y tu allan i'w rheolaeth, ac ymddiheurodd i'r rhai a gafodd eu heffeithio.
Ers i'r honiadau gwreiddiol ddod i'r amlwg ddydd Mercher, mae rhagor o rieni a busnesau wedi dweud eu bod nhw hefyd wedi colli arian.
Y gred yw bod heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi derbyn honiadau, gyda rhai wedi eu pasio at Action Fraud.
Mae Action Fraud wedi cadarnhau bod un achos yn cael ei asesu gan y Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol - adran o Heddlu Dinas Llundain.
Perthynas gyda Chymru wedi chwalu
Fe wnaeth Ms Allen-Wyatt - a newidiodd ei henw o Natasha Harding ar ôl priodi eleni - ymddeol o bêl-droed ym mis Medi 2023 ar ôl gyrfa ddisglair, gan ennill 103 o gapiau dros Gymru.
Cafodd cyn-chwaraewr Aston Villa a Reading ei gadael allan o garfan merched Cymru ddiwedd 2022 am “resymau personol”.
Mae’r BBC bellach yn deall bod hyn oherwydd chwalfa yn ei pherthynas â’i chyd-chwaraewyr, oherwydd honiadau bod rhai wedi rhoi benthyg arian iddi ac nad oedd hi wedi eu talu yn ôl.
Mae cyn gyd-chwaraewyr bellach wedi datgelu i'r BBC bod rhai o weithredoedd Ms Allen-Wyatt, "hefyd wedi effeithio ar ein hunain, ein teuluoedd a'n ffrindiau".
Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau drwy law Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ar ran chwaraewyr, staff a'r gymdeithas, dywedon nhw fod gweithredoedd honedig Ms Allen-Wyatt yn "siomedig tu hwnt" ac "nad ydynt yn cynrychioli ni fel carfan na'n gwerthoedd".
Gofynnodd CBDC i deuluoedd fynd at yr heddlu dros unrhyw “weithgaredd anghyfreithlon posib”, ond fe wnaeth eu hannog hefyd i gysylltu am gefnogaeth.
Fe wnaethon nhw hefyd gadarnhau eu bod wedi siarad â'r heddlu a bod chwaraewyr yn cael eu cefnogi.
Beth yw'r honiadau?
Lansiodd Ms Allen-Wyatt - a chwaraeodd hefyd i Lerpwl ac sydd bellach yn sylwebu ar gyfer un arall o’i chyn-glybiau, Manchester City - Academi Tash Harding ym mis Awst 2023.
Postiodd ar-lein yn rheolaidd am ei llwyddiant, gan honni ei bod wedi cynnal 2,000 o sesiynau hyfforddi i blant ar draws de, canolbarth a gogledd Cymru, Cheltenham a Bryste.
Er ei bod yn amlwg bod yr academi yn cynnal sesiynau gyda rhai pobl ifanc, mae BBC Cymru wedi siarad â rhieni a busnesau sy'n dweud eu bod wedi talu arian am wasanaethau, neu am enillion ar fuddsoddiadau, na ddaeth i'r amlwg.
Mae BBC Cymru wedi tyrchu drwy gannoedd o negeseuon WhatsApp, trafodion bancio, anfonebau a chytundebau rhwng Ebrill 2023 a Thachwedd 2024 sy'n cefnogi'r hyn y maen nhw wedi'i ddweud.
Mae’r honiadau’n cynnwys:
Brawd a chwaer a oedd yn "wallgof" am bêl-droed a ddefnyddiodd eu harian Nadolig eu hunain i dalu am sesiynau hyfforddi, ond pan na ddigwyddodd y sesiynau dywedodd eu rhieni eu bod wedi gorfod eu talu’n ôl o’u pocedi eu hunain;
Cafodd plant mor ifanc â saith oed eu gadael yn teimlo nad oedden nhw'n ddigon da pan na chafon nhw'r hyfforddiant a gafodd ei addo iddyn nhw;
Dywedodd gwirfoddolwyr sy’n rhedeg tîm pêl-droed eu bod yn “dorcalonnus” ar ôl dweud wrth 40 a mwy o blant na fydden nhw’n cael yr hyfforddiant;
Mae'r BBC hefyd yn deall na chafodd £3,770 a godwyd gan Ms Allen-Wyatt o awyrblymio (sky dive) yn 2022 ar gyfer elusennau sy'n agos at galonnau cyd-chwaraewyr Cymru, ei drosglwyddo i ddwy o'r tair elusen.
'Amgylchiadau y tu hwnt i fy rheolaeth'
Dywedodd rhieni wrth y BBC eu bod wedi talu rhwng £180 a £975 am flociau o sesiynau hyfforddi un-i-un a bod un neu ddau yn aml yn cael eu darparu – gan gynnwys rhagflas am ddim.
Ond nid oedd yr un o'r rhieni y mae'r BBC wedi siarad â nhw wedi derbyn yr holl sesiynau hyfforddi y gwnaethon nhw dalu amdanyn nhw.
Dywedon nhw fod Ms Allen-Wyatt wedi defnyddio sawl rheswm dros beidio â'u gwneud, gan gynnwys damweiniau car, diffyg caeau ar gael, gwrthdaro amserlen, ei pharti plu a'i phriodas.
Dywedodd llawer nad oedden nhw wedi cael ateb i geisiadau am ad-daliadau neu fod ad-daliadau wedi'u haddo ond nad oedden nhw'n digwydd.
Ni ymatebodd Ms Allen-Wyatt i'r honiadau a wnaed gan ei chyn-chwaraewyr na gan fusnesau, ond cyfaddefodd y bu'n rhaid iddi ganslo "rhai sesiynau" oedd wedi'u trefnu ar gyfer plant.
Dywedodd fod hynny oherwydd "amgylchiadau y tu hwnt i fy rheolaeth", gan gynnwys, "fy nghar yn cael ei ddinistrio a'r ail gar yn torri i lawr" a bod ad-daliadau wedi'u talu i rai rhieni ac wedi'u cytuno ag eraill.
Dywedodd iddi sefydlu'r academi i ddarparu "hyfforddiant technegol manwl" ar gost isel i roi'r "cyfleoedd na chefais erioed" i blant.
Ychwanegodd fod yr academi dal yn gweithredu a'i bod yn rhoi "sesiynau lleol".
Roedd Lowri-Mai Phillis, sy'n gwirfoddoli gyda Chlwb Pêl-droed Dreigiau Dâr yn Aberdâr, yn un o'r rhai oedd yn edrych ymlaen yn fawr i hyfforddi gyda Ms Allen-Wyatt.
Fe dalodd y clwb £600 am 10 o sesiynau ond roedd Ms Allen-Wyatt ond yn bresennol ar gyfer dau.
"Roedd y tîm mor gyffrous i gael hi i ddod i wneud be' ma' hi’n 'neud gyda’r plant a rhoi’r wybodaeth a’r cyfle iddyn nhw i fod mor dda ag oedd hi," meddai.
I ddechrau aeth popeth fel y disgwyl, gyda'r plant yn mwynhau'r cyfle i hyfforddi gyda Ms Allen-Wyatt. Ond yna fe newidiodd pethau.
"Ar ôl tipyn bach o amser roedd hi wedi dechrau peidio troi lan a doedd hi ddim yn siarad gyda'r clwb," meddai Ms Phillis.
"Pan doedd hi heb droi lan roedden ni wir yn teimlo'n drist oherwydd roedd y plant wir yn edrych 'mlaen i weld hi ond nawr ma' pawb yn drist."
Dywedodd rhai rhieni fod y sesiynau a gafodd eu canslo wedi effeithio ar hyder eu plant.
Trefnodd Kelly Tanner o'r Coed Duon, Caerffili, i'w merch naw oed, Elen gael sesiwn blasu, cyn iddi wedyn dalu £300 am 10 sesiwn.
Dywedodd Ms Tanner: "Rhoddodd [Ms Allen-Wyatt] adborth cadarnhaol iawn i Elen a jocian, 'Mi fydda i'n rheolwr arnat ti pan fyddi di'n bêl-droediwr enwog'. Roedd Elen yn beaming."
Ond ar ôl chwe wythnos o geisio trefnu sesiynau, gofynnodd Ms Tanner am ad-daliad, a gafodd ei ddychwelyd yn y pendraw.
“Y rheswm yr oedden ni eisiau’r sesiynau hyn oedd er mwyn adeiladu hunanhyder Elen," meddai, "ac fe wnaeth y gwrthwyneb llwyr o ran Elen yn teimlo wedi'i gwrthod, neu ddim yn ddigon da, neu ddim yn ddigon pwysig.”
'Embaras'
Mae'r BBC hefyd wedi siarad â nifer o fusnesau o dde Cymru a ddywedodd eu bod wedi talu cannoedd mewn nawdd, yn gyfnewid am enw eu cwmni ar flaen crysau, ar faneri a chit.
Derbyniodd luniau o un crys gyda'u logos arno, ond dywedon nhw eu bod wedi cael dim byd mwy.
Honnodd James Matthews o gwmni Sub-zero Refrigeration iddo dalu £10,000 mewn buddsoddiadau a benthyciadau ar ôl iddo gael gwybod - fel busnesau eraill y mae'r BBC wedi siarad â nhw - y byddai'n bartner tawel ac yn cymryd canran o'r elw.
Dros gyfnod o flwyddyn, dywedodd mai dim ond £437 a gafodd yn ôl ar gyfer ei gyfran o 48%.
Dywedodd Mr Matthews ei fod bellach yn teimlo “embaras” am ei fod wedi ymddiried yn Ms Allen-Wyatt oherwydd ei statws fel pêl-droediwr.
“Pe bai’n rhywun oddi ar y stryd fyddwn i byth wedi rhoi'r arian yna i mewn,” meddai.
Yn eu datganiad i’r BBC, dywedodd CBDC, chwaraewyr a staff merched Cymru: “Fel carfan sy’n cynrychioli ein gwlad gyda balchder ac sy’n ceisio ysbrydoli’r genhedlaeth iau, mae wedi bod yn siomedig tu hwnt clywed yr honiadau.”
Ychwanegodd: "Nid oedd y camau a gymerwyd gan yr academi sy'n destun ymchwiliad y BBC yn gysylltiedig â CBDC mewn unrhyw ffordd.
"Fodd bynnag, byddai CBDC yn annog y rhai sydd o bosib wedi'u heffeithio i estyn allan am gefnogaeth, ond rydym hefyd yn cynghori y dylid hysbysu unrhyw weithgaredd anghyfreithlon posibl i'r heddlu yn y lle cyntaf.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd16 Medi 2023
- Cyhoeddwyd30 Awst 2018