Gwyliwch: Car ar dân wedi gwrthdrawiad difrifol
Mae dau o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru'n beryglus wedi gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych nos Fercher.
Cafodd saith o bobl eu hanafu yn y digwyddiad ger hen dafarn y Downing Arms ar yr A541 ym Modfari am 19:42.
Roedd tri cherbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad, meddai'r gwasanaethau brys.
Aeth un ohonynt ar dân, a bu'n rhaid tynnu'r gyrrwr allan ohono.
Cafodd tri o'r rhai a anafwyd eu cludo mewn hofrennydd i ganolfannau arbenigol ac mae'r pedwar arall yn cael triniaeth mewn ysbytai lleol.
Yn ôl yr heddlu, mae rhai ag anafiadau sy'n bygwth eu bywyd ac eraill ag anafiadau a all newid eu bywyd.