Merch, 12, ag 'anafiadau sy'n bygwth ei bywyd' wedi gwrthdrawiad

Mae ffens bren ar ochr yr A541 i'w weld wedi'i difrodi
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru'n beryglus wedi gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych nos Fercher.
Cafodd saith o bobl - gan gynnwys dau o blant - eu hanafu yn y digwyddiad ger hen dafarn y Downing Arms ar yr A541 ym Modfari am 19:42.
Roedd tri cherbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad, meddai'r gwasanaethau brys.
Yn ôl yr heddlu, mae merch 12 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau sy'n bygwth ei bywyd, tra bod merch arall 13 oed, wedi dioddef anafiadau a all newid ei bywyd.
Mae dwy ddynes oedd yn yr un car â'r merched yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau a all newid eu bywyd, ac mae un dyn hefyd yn dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol.
Mewn datganiad nos Iau fe gadarnhaodd Heddlu'r Gogledd fod un o'r ddau ddyn gafodd eu harestio bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad, tra bod yr ail ddyn yn parhau yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac maen nhw'n apelio am dystion.
Aeth un car ar dân wedi'r gwrthdrawiad
Dywedodd y Sarjant Daniel Rees o uned troseddau'r ffyrdd y llu: "Dwi'n apelio ar dystion i'r gwrthdrawiad, sydd heb roi eu manylion i'r heddlu, i gysylltu â ni."
Ychwanegodd eu bod yn chwilio'n benodol am rywun a allai fod wedi gweld, neu sydd â lluniau teledu cylch cyfyng neu gamera dash, o BMW 118 arian a Mercedes A200 arian yn teithio gyda'i gilydd yn ardal Dinbych a Bodfari oddeutu 19:42.
"'Da ni'n gofyn i bobl ymatal rhag gwneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan y gallai hynny effeithio ar yr ymchwiliad," ychwanegodd.
'Malurion ar ochr y ffordd'
Erbyn y bore 'ma mae'r ffordd wedi ei chlirio, ond mae olion y gwrthdrawiad i'w weld yn glir o hyd.
Mae malurion a darnau bach o gerbydau i'w gweld ar yr un ochr y ffordd â thafarn y Downing Arms Inn sydd wedi cau lawr.
Digwyddodd y gwrthdrawiad mewn parth 40mya ychydig cyn i'r ffordd newid i fod yn 60mya wrth i chi adael pentref Bodfari.
Mae ffens bren sy'n berchen i eiddo cyfagos i'w weld wedi'i difrodi, gyda choed a llwyni cyfagos hefyd wedi'u difrodi.

Dywedodd Tony Johnson ei fod wedi tynnu gyrrwr o un cerbyd oedd ar dân
Roedd Tony Johnson, sy'n byw gerllaw, yn un o'r bobl gyntaf i gyrraedd y digwyddiad.
Dywedodd: "Roedden ni'n eistedd lawr i gael swper tua 19:20 neithiwr pan glywson ni glec aruthrol.
"Y math o glec lle rydych chi'n gwybod fod rhywbeth difrifol wedi digwydd.
"Fe ddaethon ni y tu allan at y ffordd. Roedd cwpl o gerbydau yn amlwg wedi cael gwrthdrawiad mawr.
"Roedd un ohonyn nhw ar dân. Fe es i a fy nghymydog i'r un oedd ar dân ac roedd y gyrrwr yn dal yn y cerbyd.
"Fe wnaethon ni'r penderfyniad i'w dynnu allan, oherwydd roedd yna berygl gyda'r tân... o fewn rhyw ddau funud, roedd y cerbyd cyfan mewn yn wenfflam.
"Roedd yn dychryn rhywun pa mor gyflym y digwyddodd hynny."

Mae malurion a darnau o gerbydau i'w gweld ar ochr y ffordd
Dywedodd Mr Johnson fod y ffordd lle digwyddodd y gwrthdrawiad yn dechrau mynd yn syth wrth iddi newid i 60mya.
"Mae pobl yn tueddu i oddiweddyd yma oherwydd eu bod yn dod i'r 60, ond mae'r ffordd lle digwyddodd y gwrthdrawiad ar dro dall.
"Mae yna ddamweiniau cymharol aml yma, ond dwi ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi clywed am unrhyw beth cynddrwg â hwn."

Aeth un o'r cerbydau drwy ffens ar eiddo Scott Davidson
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ran o eiddo Scott Davidson, a ddychwelodd i'w gartref ychydig wedi'r digwyddiad.
"Roedd yn erchyll, gwrthdrawiad tri char, roedd un car ar dân a'r parafeddygon, ambiwlans, yr heddlu – mae'n rhaid bod tua 20 neu 30 o bobl yn trin y criw oedd yn y ddamwain ar ein heiddo yma," meddai.
"Diolch byth doeddwn i ddim yma, neu dwi'n meddwl y byddai wedi bod yn eitha' trawmatig.
"Roedd ein heiddo mewn gwirionedd yn ardal y gwrthdrawiad, roedd y car ar dân ar y brif lôn ar yr ochr arall, ac mae un o'r ceir wedi dod drwy ein ffens i'n heiddo.
"Mae yna ychydig o ddifrod, ond dwi'n poeni mwy am y bobl sy'n gysylltiedig â'r gwrthdrawiad.
"Gofynnodd yr heddlu i ni os fod modd i'r ambiwlans awyr lanio ar ein heiddo, felly fe wnaethon nhw lanio yn weddol agos at y maes parcio."