Cymru am 'roi popeth mewn i'r perfformiad ddydd Sul'
Tydi chwaraewr ail reng Cymru, Natalia John, ddim yn poeni'n ormodol am ganlyniadau siomedig Cymru yn y Chwe Gwlad eleni, gan ddweud ei bod hi'n hyderus y byddan nhw'n gwella o dan arweiniad y prif hyfforddwr newydd Sean Lynn.
Mae Cymru wedi colli pob un o'u pedair gêm yn y bencampwriaeth hyd yma, ac mi fyddan nhw'n wynebu'r Eidal yn Parma ddydd Sul gan obeithio osgoi cael y lwy bren.
Mae'r gêm wedi cael ei gohirio am 24 awr oherwydd angladd y Pab Ffransis.