Gohirio gêm Chwe Gwlad olaf Cymru oherwydd angladd y Pab

Keira BevanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Keira Bevan yn cicio i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae gêm olaf merched Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal wedi cael ei gohirio am 24 awr - oherwydd angladd y Pab Ffransis.

Roedd y gêm fod i gael ei chynnal yn ninas Parma yn yr Eidal, ac i ddechrau tair awr ar ôl i'r gwasanaeth angladdol gychwyn, ddydd Sadwrn 26 Ebrill.

Ond bellach mae'r gêm wedi ei haildrefnu ar gyfer 11:30 (amser Cymru) ddydd Sul, meddai trefnwyr y gystadleuaeth.

Hyd yn hyn mae Cymru wedi colli pob un o'u gemau yn y bencampwriaeth, ac os ydynt yn colli yn erbyn yr Eidalwyr ddydd Sul, maent yn wynebu derbyn y llwy bren.

Pynciau cysylltiedig