'Pryder mawr' am newidiadau posib i fudd-daliadau pobl anabl

Mae dyn o Gaernarfon oedd yn arfer gorfod "edrych tu ôl cefn y soffa" am arian bws i geisio dod o hyd i swydd, yn galw ar Lywodraeth y DU i "gallio" ynglŷn â newidiadau posib i fudd-daliadau.

Roedd Anthony Caradog Evans, 37, yn ymateb yn dilyn bwriad Llafur i dynhau rheolau o gwmpas y Taliad Annibynnol Personol (PIP) er mwyn cwtogi biliynau o bunnau oddi ar y gyllideb les.

Ond mae sôn y gallai gweinidogion dynnu yn ôl o gynlluniau i rewi PIP, yn dilyn gwrthwynebiad gan rai ASau Llafur sydd am ei weld yn parhau i godi gyda chwyddiant.

Dyma ymateb Anthony Evans a rhai o bobl Caernarfon am y sefyllfa.