'O'n i'n chwilio tu ôl i'r soffa am arian ac yn hollol ddibynnol ar PIP'

Disgrifiad,

"Y gwir amdani ydi, dwi dal yn anabl er mod i mewn gwaith"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaernarfon sy'n dweud ei fod yn arfer edrych tu ôl y soffa am arian bws yn galw ar Lywodraeth y DU i "gallio" ynglŷn â newidiadau posib i fudd-daliadau.

Daw hynny'n dilyn bwriad Llafur i dynhau rheolau o gwmpas y Taliad Annibynnol Personol (PIP) er mwyn cwtogi biliynau o bunnau oddi ar y gyllideb les.

Ond mae sôn y gallai gweinidogion dynnu'n ôl o gynlluniau i rewi PIP, yn dilyn gwrthwynebiad gan rai ASau Llafur sydd am ei weld yn parhau i godi gyda chwyddiant.

Ddydd Sul fe ddywedodd Ysgrifennydd Iechyd y DU, Wes Streeting nad oedd wedi gweld y cynlluniau, ond dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Liz Kendall ei bod eisiau rhoi "cymorth i'r bobl sydd ei angen fwyaf".

'Calliwch'

Mae gan Anthony Caradog Evans, 37, gyflwr niwrolegol hydrocephalus, sy'n effeithio ei olwg yn ogystal â golygu gwendid ar ochr dde ei gorff.

"Yn y gorffennol mae 'di bod yn anodd dod o hyd i waith, a dwi 'di bod yn hollol ddibynnol ar PIP," meddai'r gŵr o Gaernarfon.

"Dwi'n cofio mynd tu ôl i'r soffa i chwilio am newid mân jyst i fforddio tocyn bws i ddod i'r dre i chwilio am waith.

"Dwi'n cofio'n iawn, er mod i'n gweithio erbyn hyn, mor anodd oedd hi i gael dim ond y PIP yn unig o ran incwm."

Anthony Caradog
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Anthony Caradog Evans yn "hollol ddibynnol" ar fudd-daliadau PIP cyn iddo gael swydd

Mae'n dweud y byddai unrhyw gwtogi ar daliadau PIP yn effeithio ei allu i fyw yn annibynnol, gan gyhuddo'r llywodraeth o geisio "chwilio am arbedion a thoriadau yn y lle anghywir".

"'Calliwch' fyddai fy neges i," meddai.

"Nid ein bai ni, fel unigolion anabl, ydi'n bod ni ond yn hawlio'r hyn sy'n ddyledus arno ni, a hyn am resymau sydd tu hwnt i'n rheolaeth ni.

"Does neb yn gofyn am yr anableddau yma, ond 'dan ni'n gorfod byw efo nhw yr un fath."

'Gor-ddiagnosis' iechyd meddwl

Mae Melanie McLaughlin, 47, o Bontardawe yn hawlio Credyd Cynhwysol a PIP, gan ddweud eu bod yn ei helpu i fyw'n annibynnol.

"Mae'n cymryd y pwysau oddi ar orfod cael swydd llawn amser achos nid pawb sy'n gallu gweithio 40 awr yr wythnos, felly mae'r arian yn ychwanegol at beth maen nhw'n ei ennill," meddai.

"Mae gyda ni system sydd angen cael ei defnyddio'n gywir.

"Mae pobl sydd wedi cymryd mantais ohoni... ond dyw ymosod ar bobl sydd ag anableddau a chyflyrau iechyd ddim yn mynd i wella pethau.

"Gwnewch doriadau rhywle arall. Peidiwch ag ymosod ar y bobl mewn cymdeithas sydd heb lais."

Melanie McLaughlin
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Melanie McLaughlin y byddai torri PIP yn gwneud pethau'n waeth, yn enwedig i'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas

Mae'r Institute for Fiscal Studies yn dweud bod nifer y bobl oed gwaith sy'n cael budd-daliadau anabledd, gan ddefnyddio iechyd meddwl a chyflyrau ymddygiadol fel eu prif ffactor, wedi cynyddu'n sylweddol ers troad y ganrif.

Yn 2002 dyna oedd prif gyflwr 25% o'r rheiny oedd yn hawlio, ond fe gynyddodd hynny i 40% erbyn 2019, a 44% erbyn 2024.

Wrth siarad ar raglen Sunday with Laura Kuenssberg y BBC, dywedodd Wes Streeting fod "gor-ddiagnosis" wedi bod o gyflyrau iechyd meddwl, gyda "gormod o bobl yn cael eu rhoi i'r neilltu".

Yn ôl elusen anabledd Sense, mae 43% o bobl ag anableddau cymhleth eisoes mewn dyled am nad yw eu budd-daliadau'n ddigon i dalu am bethau sylfaenol fel bwyd a biliau.

Mae ymchwil yr elusen hefyd wedi dangos fod 40% o bobl ag anableddau cymhleth ar PIP yn teimlo fod y taliadau wedi eu helpu nhw i ddod o hyd i swydd.

"Ni'n becso mai'r effaith fydd nid i helpu pobl i mewn i waith – yn lle, bydd e'n gwneud e'n fwy anodd i bobl fyw yn annibynnol," meddai Evan John o Sense.

"Mae 'na impression bod e'n hawdd i ddod o hyd i PIP – dydy e ddim.

"Mae llawer o bobl gydag anableddau cymhleth yn ffeindio bod y broses yn hir, trawmatig ac humiliating... [a] bod yr asesydd ddim yn deall eu hanabledd nhw."

System les 'wedi torri'

Yn siarad ar BBC Politics Wales, dywedodd y cyn-weinidog Llafur, yr Arglwydd Hain, nad oedd y system bresennol yn helpu pobl gan alw am system les oedd yn cynnig "cyfleoedd" yn hytrach na'u "cosbi".

Ar Sunday with Laura Kuenssberg, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Addysg Cysgodol, Laura Trott, gyhuddo Llywodraeth y DU o fod "dros y lle ac yn rhanedig" dros ddiwygio lles.

Dywedodd yr Adran Waith a Phensiynau: "Rydyn ni wedi bod yn glir fod y system les bresennol wedi torri ac angen diwygio, fel ei fod yn helpu pobl anabl a'r rheiny sy'n sâl hir-dymor ond sy'n medru gweithio i ddod o hyd i swyddi, gan sicrhau fod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen, tra'n bod yn deg i'r trethdalwr.

"Heb ddiwygio bydd mwy o bobl yn cael eu cloi allan o swyddi, er bod llawer eisiau gweithio. Mae hynny nid yn unig yn wael i'r economi, ond i bobl hefyd."