'Angen trafodaeth agored ar frys am ddyfodol yr Eisteddfod'
Mae llythyr agored wedi'i gyhoeddi sy'n galw am gyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod mewn "ymgais i osgoi anghydfod yn y dyfodol".
Daw hyn ar ôl "helynt" canslo cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf y llynedd.
Dywedodd y cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, un o'r rhai sydd wedi arwyddo'r llythyr, ei fod yn "pryderu am ddyfodol" y brifwyl.
Byddai cynnal cyfarfod arbennig, meddai, yn "gam cadarnhaol" ond dywedodd bod angen i'r Eisteddfod weithredu "ar frys".
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Gan nad yw'r Eisteddfod wedi derbyn y llythyr yn swyddogol, nid oes modd i ni ymateb ar hyn o bryd."
Ond mewn datganiad ar eu gwefan, mae'r sefydliad yn dweud bod canllawiau newydd yn "atgyfnerthu'r neges mai'r beirniaid yn unig fydd yn penderfynu ar deilyngdod mewn unrhyw gystadleuaeth".