Llenorion 'mewn penbleth' dros gynnig i feirniadu yn yr Eisteddfod
Myrddin ap Dafydd: 'Angen trafodaeth agored i dawelu'r dyfroedd'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o lenorion amlycaf Cymru yn dweud eu bod yn teimlo'n "anghyfforddus" ar ôl cael gwahoddiad i feirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dywedodd Myrddin ap Dafydd a Dylan Iorwerth eu bod mewn "penbleth" am y cynnig oherwydd y ffordd cafodd cystadleuaeth y Fedal Ddrama "ei thrin y llynedd".
Cafodd y Fedal Ddrama ei hatal yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, er na chafodd rheswm ei roi ar y pryd dros wneud hynny.
Mae llythyr agored yng nghylchgrawn Golwg ddydd Iau yn galw am gyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod mewn "ymgais i osgoi anghydfod yn y dyfodol".
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Gan nad yw'r Eisteddfod wedi derbyn y llythyr yn swyddogol, nid oes modd i ni ymateb ar hyn o bryd."
Ond mewn datganiad ar eu gwefan, mae'r sefydliad yn dweud bod canllawiau newydd yn "atgyfnerthu'r neges mai'r beirniaid yn unig fydd yn penderfynu ar deilyngdod mewn unrhyw gystadleuaeth".
'Diffyg trafod agored'
Mae'r llythyr agored wedi ei arwyddo gan un o feirniaid yr Eisteddfod yn Wrecsam eleni - y bardd a'r ysgolhaig Peredur Lynch - a gan ddau sydd wedi cael cais i feirniadu yn Eisteddfod y Garreg Las y flwyddyn nesaf, sef y cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r newyddiadurwr Dylan Iorwerth.
Maen nhw'n ceisio cael cefnogaeth o leiaf 50 aelod o Lys yr Eisteddfod er mwyn gallu galw cyfarfod arbennig.
Mae'r llythyr yn dweud: "Ein cred ni ydi fod angen Cyfarfod Arbennig o Lys yr Eisteddfod er mwyn i'r aelodau gael penderfynu ar reolau syml a fydd yn rhoi hyder i feirniaid a chystadleuwyr [ac] yn sicrhau na fydd raid i swyddogion a phenaethiaid yr Eisteddfod wynebu penderfyniadau anodd fel hyn yn y dyfodol.
"Yn ein barn ni, byddai'n ddigon cael rheol syml yn mynegi fod dyfarniad beirniaid yn derfynol (heblaw mewn achos o dorri amod cystadleuaeth neu dwyll) ac nad oes hawl ymyrryd yn y penderfyniad hwnnw.
"Yn fwy na dim, byddai'n golygu bod eisteddfodau 2025 a 2026 heb gysgod trostyn nhw.
"Mae'r pwyslais yn llwyr ar y dyfodol a dod o hyd i ateb i'r anniddigrwydd a'r ansicrwydd sydd wedi codi yn sgil yr helynt y llynedd."
Dyma sut y cafodd y cyhoeddiad ei wneud am ganslo'r Fedal Ddrama - o brif lwyfan y brifwyl - ym mis Awst 2024
Mewn neges flaenorol ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Myrddin ap Dafydd a Dylan Iorwerth eu bod "mewn penbleth" ar ôl cael gwahoddiad i feirniadu yn Eisteddfod Genedlaethol 2026.
Roedden nhw'n "awyddus i gefnogi'r Brifwyl a'r bobl leol ond yn anghyfforddus oherwydd y ffordd y cafodd cystadleuaeth y Tlws Drama ei thrin y llynedd ac oherwydd y diffyg trafod agored ar hynny".
"Fel y mae, does dim sicrwydd na fydd penderfyniad beirniad yn cael ei wyrdroi neu ei wrthod gan benderfyniad swyddogion.
"Oherwydd hynny, ryden ni'n credu bod angen cyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod i drafod hyn ac i osod canllawiau clir - er lles cystadleuwyr, beirniaid a phenaethiaid yr Eisteddfod hefyd."
'Gadewch i ni symud ymlaen'
Ar raglen Dros Frecwast ddydd Iau, dywedodd Myrddin ap Dafydd bod yr Eisteddfod "ddim yn or-wych am wrando ar farn Steddfodwyr cyffredin" ynghylch y mater.
Ychwanegodd bod datganiadau'r Eisteddfod wedi creu ansicrwydd, a bod amwysedd o hyd "er gwaethaf cyhoeddi canllawia' newydd i feirniad ddoe".
Mae'r rheiny, meddai, yn nodi mai "penderfyniad y beirniaid yn unig fydd gwobrwyo ai peidio... ond dydi hynny ddim yn nodi yn glir na all ymgynghorydd cyfreithiol neu swyddogion y Steddfod neu'r cyngor ac ati a phwyllgorau Steddfod ymyrryd ym marn y beirniaid".
Gyda dyddiadau cau allweddol i gystadleuwyr yn agosáu ar gyfer y ddwy Brifwyl nesaf, dywedodd y gallai'r Llys osod "egwyddor gadarn" bod barn y beirniaid yn derfynol, a sicrhau bod yr egwyddor yna "ar dir cadarn a pharhaol".
Wrth ymgeisio i sicrhau 50 o lofnodion er mwyn galw cyfarfod arbennig o'r Llys, dywedodd bod hi'n "anodd" cael cadarnhad pwy yw aelodau presennol y Llys, er gwaethaf dau lythyr at Gyngor yr Eisteddfod yn gofyn am fanylion.
"Y ffordd hawsa' fysa bod y Steddfod ei hun yn galw am gyfarfod o'r Llys," meddai, gan ychwanegu y byddai hynny'n "gam cadarnhaol" a "rhesymol" a fyddai'n "tawelu'r dyfoedd".
"Gadewch i ni symud ymlaen," apeliodd, gan bwysleisio bod angen cymryd camau "ar frys".
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018
Ym mis Medi y llynedd fe ddywedodd un o feirniaid cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 ei bod hi'n ystyried tynnu'n ôl hefyd.
Dywedodd yr awdur, Elin Llwyd Morgan yng nghylchgrawn Barn bod "cynsail peryglus wedi'i osod sy'n bygwth newid yr Eisteddfod yn sylfaenol".
Yn y cyfamser, mae nifer o ddramodwyr, llenorion, beirdd ac academyddion wedi arwyddo llythyr agored at yr Eisteddfod yn galw am esboniad ynghylch canslo'r fedal.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, dywedodd aelod o fwrdd rheoli'r Eisteddfod fod y penderfyniad i atal y Fedal Ddrama wedi ei wneud "er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad".
'Beirniaid fydd yn penderfynu ar deilyngdod'
Wrth ymateb i sylwadau Myrddin ap Dafydd ar Dros Frecwast, dywedodd yr Eisteddfod eu bod yn "siomedig yn y sylwad nad ydyn ni'n 'or-wych' am wrando ar sylwadau Eisteddfodwyr cyffredin".
Dywedodd llefarydd bod yr Eisteddfod "wedi'i seilio ar wrando ar sylwadau a rhoi llais i Eisteddfodwyr cyffredin", a bod "cyfraniad Eisteddfodwyr cyffredin fel hyn yn allweddol".
O ran y canllaw i feirniaid, dywedodd y llefarydd nad yw'n "cyfeirio at y Bwrdd o gwbl", ac yn hytrach bod y canllaw yn nodi bod "darllenydd sensitifrwydd ar gael os ydych chi fel panel neu feirniad unigol yn teimlo fod angen".
Dywedodd y llefarydd nad oes gwybodaeth am bwy sy'n aelodau o'r Llys ar y wefan "gan y byddai hyn yn mynd yn groes i reolau GDPR".
Mewn datganiad ar eu gwefan, dolen allanol mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud eu bod wedi cyhoeddi'r "canllawiau i feirniaid" yn dilyn adolygiad.
"Bu'n ymarferiad pwysig a defnyddiol, er mwyn sicrhau bod ein holl ganllawiau beirniaid yn addas ar gyfer Cymru heddiw," medd y datganiad.
"Bu'n gyfle i ni atgyfnerthu'r neges mai'r beirniaid yn unig fydd yn penderfynu ar deilyngdod mewn unrhyw gystadleuaeth ai peidio.
"Yn sgil y broses rydym hefyd am gyflwyno gwasanaeth darllenydd sensitifrwydd i feirniaid sydd angen cyngor pellach ar ddarn o waith sy'n debygol o ddod i'r brig mewn unrhyw gystadleuaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd29 Medi 2024