Plant 'yn cael eu gadael lawr' heb asesiad awtistiaeth

Mae mam o Sir Gaerfyrddin wedi dweud iddi fod yn ei dagrau ar y ffordd i'r gwaith wrth i'w merch aros bron i bedair blynedd am asesiad awtistiaeth.

Yn ôl Gemma, 31 o Frynaman, mae Alice, 8, yn aml yn cuddio'i theimladau, yn gwrthod mynd i'r ysgol ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi mewn grwpiau mawr.

"Fi 'di bod yn grac, achos ma' cyfnodau wedi bod ble nag y'n ni'n siŵr fel i fod yn rhiant," dywedodd Gemma.

Mae ymchwil BBC Cymru wedi awgrymu bod nifer y plant sy'n aros dros flwyddyn am asesiad niwrowahaniaeth wedi mwy na dyblu yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Yn ôl gweinidog Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy, dydy aros cyhyd "ddim yn dderbyniol" ac fe fyddan nhw'n buddsoddi £13.7m ar gyfer gwasanaethau niwrowahaniaeth.