Mam yn 'grac' yn disgwyl am asesiad awtistiaeth i'w merch

Disgrifiad,

Mae Alice, merch Gemma, wedi bod ar y rhestr aros am asesiad ers bron i bedair blynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae mam o Sir Gaerfyrddin wedi dweud iddi fod yn ei dagrau ar y ffordd i'r gwaith wrth i'w merch aros bron i bedair blynedd am asesiad awtistiaeth.

Yn ôl Gemma, 31 o Frynaman, mae Alice, sy'n wyth oed, yn aml cuddio ei theimladau, yn gwrthod mynd i'r ysgol ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi mewn grwpiau mawr.

"Fi 'di bod yn grac, achos ma' cyfnodau wedi bod ble nag y'n ni'n siŵr fel i fod yn rhiant," dywedodd Gemma.

Mae ymchwil BBC Cymru wedi awgrymu bod nifer y plant sy'n aros dros flwyddyn am asesiad niwrowahaniaeth wedi mwy na dyblu yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Yn ôl gweinidog Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy, dydy aros cyhyd "ddim yn dderbyniol" ac fe fyddan nhw'n buddsoddi £13.7m ar gyfer gwasanaethau niwrowahaniaeth.

Gemma a'i merch Alice yn gwenu o flaen coeden Nadolig.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alice yn aml yn cuddio ei theimladau yn ystod y dydd, meddai Gemma

Mae gorfod aros blynyddoedd am asesiad, allai arwain at ddiagnosis awtistiaeth i Alice, yn gwneud i Gemma deimlo'n "grac".

"Mae'n dod lan i bedair blynedd mis Ebrill a ni dal heb glywed dim byd," dywedodd.

"Erbyn hyn, ni'n cael real gwaith cael hi mewn i'r ysgol. Ma' ysgol yn broblem fawr iddi - bod hebddon ni.

"Mynd â hi mewn i'r ysgol a ma' hi'n sgrechen, cloi ei hunan yn y bathroom, yn y car.

"Mae'n cuddio lot o beth ma' hi'n becso amdano.

"Ma' hi'n dala fe mewn, ac erbyn bod hi'n dod gartre' ma' hi fel potel o bop - ma' hi'n mynd yn wyllt, ma' hi'n cael y meltdown a mae e'n cymryd oriau wedyn i ddod â hi nôl lawr."

'Problem cael pobl i gredu ni'

Ychwanegodd Gemma fod y cyfnodau o ymddygiad heriol yn anodd i'r teulu.

"Fi'n llefen ar y ffordd i'r gwaith llawer o weithiau," meddai.

"Cael pobl i gredu ni, 'na beth o'dd y broblem fwya'. Heb y diagnosis, nag y'n nhw'n gallu deall hi.

"Does dim cadarnhad - ma' nhw jest yn gorfod cymeryd fy ngair i, a dyw hwnna ddim yn ddigon weithiau."

Fe gafodd Gemma ddiagnosis ei hun o awtistiaeth dros flwyddyn yn ôl, ar ôl mwy na dau ddegawd o driniaeth iechyd meddwl oedd ddim yn gweithio.

"'Sen i 'di gw'bod pryd 'ny bo' fi yn awtistig, bydde' pethe' 'di bod yn wahanol," meddai.

"Mae e wedi gadael cenhedlaeth gyfan - ma' nhw 'di cael eu gadael lawr.

"Nagw i mo'yn 'na i'r genhedlaeth nesa'. 'Na pam fi wir mo'yn helpu Alice a'r plant eraill.

"Ma' fe'n system sy'n gadael lot o bobl lawr ar y funud."

Mewn ymateb i sylwadau Gemma, dywedodd Andrew Carruthers o Fwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn "gweithio'n barhaus i wella gwasanaethau" er mwyn sicrhau eu bod yn gweld cymaint o'r bobl ifanc sydd angen eu cymorth cyn gynted â phosib.

Trwy gais rhyddid gwybodaeth i fyrddau iechyd Cymru, mae ymchwil BBC Cymru yn dangos bod cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu cyfeirio am asesiadau niwrowahaniaeth, a'r aros i blant yn cynyddu.

Ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda y llynedd, roedd dros 12 gwaith yn fwy o blant yn aros dros flwyddyn am asesiad awtistiaeth na'r un cyfnod bum mlynedd ynghynt - 194 yn 2019 o gymharu â 2,391 yn 2024.

Mae'r un bwrdd iechyd, wedi gweld cynnydd o dros 400% yn nifer y plant sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw am asesiad awtistiaeth - 614 yn 2019 i 3,326 yn 2024.

Dros bum mlynedd a hanner yw'r amser hiraf mae plentyn wedi bod yn aros am asesiad drwy Gymru, a hynny ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Bu'n rhaid i Leian o Benrhyndeudraeth roi'r gorau i'w swydd llawn amser oherwydd anghenion ei mab, Twm, wyth oed, sydd yn awtistig.

Mae hi'n rhannu fideos ar-lein i godi ymwybyddiaeth, ac yn clywed gan deuluoedd sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.

"I blentyn fatha Twm, o'n i ddim yn hung up ar gael diagnosis, gan bod ei anghenion o mor ddwys a mor amlwg," meddai.

Dynes gyda llygaid llwydlas a gwallt hir browngoch. Mae hi'n gwisgo siwmper lliw hufen. Mae lluniau o flodau ar wal y tu ôl iddi.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leian o Benrhyndeudraeth yn codi ymwybyddiaeth ar gyfryngau cymdeithasol am fod yn fam i blentyn ag anghenion dwys

Ychwanegodd Leian: "I'r plant bach 'na sy' ddim mor amlwg, mae o mor bwysig cael diagnosis iddyn nhw, iddyn nhw gael y services.

"Yn enwedig rheina' efo ADHD - os oes gynnyn nhw ddim diagnosis, geith nhw ddim y meddyginiaeth."

Pam fod rhestrau aros yn tyfu?

Yn ôl Gwasanaeth Niwrowahaniaeth Cymru, un rheswm posib am y cynnydd mewn rhestrau aros yw bod ymwybyddiaeth yn tyfu am niwrowahaniaeth.

"Ma' 'na elfen o ran capasiti," dywedodd eu swyddog datblygu Sioned Thomas.

"Dydy'r gwasanaethau sydd gynnon ni ar hyn o bryd a sut ma' nhw wedi strwythuro, dydy 'heina ddim yn gallu dal i fyny efo'r referrals sy'n dod i mewn."

Ond ychwanegodd bod modd cael cefnogaeth i blant cyn i asesiad ddigwydd.

"Dwi'n gwybod o ran y ddeddf sydd gynnyn nhw o ran anghenion dysgu ychwanegol, bod hwnna ddim yn gofyn am asesiad.

"Y broblem sy'n dod weithiau ydy heb asesiad, sut ma'r anghenion - y gwir anghenion yna - yn cael eu hadnabod?"

Dr Rhiannon Packer o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ganddi wallt coch ac mae'n gwisgo sbectol a siwmper las.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Rhiannon Packer yn cydnabod fod yr amseroedd aros yn rhy hir, ond yn dweud y dylai plant gael eu cefnogi er nad oes diagnosis

Ategu hynny mae Dr Rhiannon Packer, uwch-ddarlithydd anghenion dysgu ychwanegol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sy'n dweud bod angen mwy o gefnogaeth ar athrawon.

"Dwi ddim yn meddwl ar hyn o bryd bod pob athro yn cael hyfforddiant i ddeall sut i gefnogi plant sy'n niwroamrywiol," meddai.

"Felly bydden i'n dweud bod angen mwy o hyfforddiant achos bod y ddarpariaeth yna ddim yn gyson ar draws Cymru.

"Dwi'n teimlo pe bai'r gefnogaeth yna yn yr ysgol, a bod 'na ddealltwriaeth rhwng yr ysgol a'r rhieni, falle' bod dim angen y label".

'Creu model cwbl newydd'

Dywedodd y gweinidog iechyd meddwl a llesiant, Sarah Murphy, fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £13.7m yn ddiweddar mewn gwasanaethau niwrowahaniaeth, yn ogystal â £3m i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hiraf, gyda thargedau chwe mis wedi'u rhoi i fyrddau iechyd.

"Dyw hi ddim yn dderbyniol eu bod nhw wedi bod yn aros cyhyd," meddai.

"Dyna pam ry'n ni'n rhoi'r arian ychwanegol yma. Allwn ni ddim gadael i hyn barhau.

"Rydyn ni wedi cael gwasanaethau yn eu lle... mae'r angen wedi saethu i fyny. Mae 'na gynnydd enfawr mewn ymwybyddiaeth wedi bod.

"Dyna pam ry'n ni wedi gorfod creu model cwbl newydd nawr."