Cofio'r Cofi Ernie Walley a'i gyfnod yn rheoli Crystal Palace
Dros y penwythnos bu farw Ernie Walley, y cyn bêl-droediwr a'r hyfforddwr o Gaernarfon a ymunodd â Tottenham Hotspur pan oedd ond yn 17 oed yn y 1950au cynnar.
Bu ar lyfrau timau fel Middlesbrough a Crystal Palace hefyd, cyn dod yn hyfforddwr ar dimau Watford, Arsenal, Crystal Palace ac yn is-reolwr Chelsea.
Cafodd ei frawd Tom Walley yrfa ddisglair ar y cae hefyd.
Dyma gyfweliad wnaeth Ernie ar raglen Heddiw BBC Cymru, wrth iddo gymryd yr awenau fel rheolwr Crystal Palace ar ôl i Terry Venables adael yn 1980.
Yn y sgwrs mae'n trafod yr heriau o reoli clwb mawr, ac yn hel atgofion am ei wreiddiau yng Nghaernarfon.