Cofio Ernie Walley: O Gaernarfon i Tottenham Hotspur yn 17 oed

Disgrifiad,

Clip o'r archif: Ernie Walley yn hyfforddi Crystal Palace yn 1980

  • Cyhoeddwyd

Dros y penwythnos bu farw Ernie Walley, y cyn bêl-droediwr a'r hyfforddwr o Gaernarfon a ymunodd â Tottenham Hotspur pan oedd ond yn 17 oed yn y 1950au cynnar.

Bu ar lyfrau timau fel Middlesbrough a Crystal Palace hefyd, cyn dod yn hyfforddwr ar dimau Watford, Arsenal, Crystal Palace ac yn is-reolwr Chelsea.

Cafodd ei frawd Tom Walley yrfa ddisglair ar y cae hefyd.

Chwaraeodd Tom i Arsenal, Watford a Chymru, ac roedd yn hyfforddwr gyda Watford yn yr un cyfnod â'i frawd.

Un sy'n ddyledus i Ernie ac a fu'n chwarae i Watford yn ystod ei gyfnod yno yw cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts.

Y Cymry ynghanol y Cocnis

Y diweddar Ernie WalleyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ernie Walley yn 91 oed dros y penwythnos

Yn seren ifanc ar y pryd, mae Iwan yn cofio'r gefnogaeth oedd yntau a Chymro arall, Malcolm Allen, yn ei gael gan Ernie a'i frawd pan ddechreuodd y ddau chwarae gyda Watford.

"Ddaru fi gwrdd ag Ernie, oedd o'n is-reolwr efo John Hollins yn Chelsea a dwi'n meddwl mai yna ddaru Ernie wario y rhan fwyaf o'i yrfa fel hyfforddwr, ond wrth gwrs doedd Watford ddim yn bell o Chelsea," eglura Iwan ar Dros Frecwast.

"Oedd Tom ac Ernie, oeddan nhw'n cwrdd â'i gilydd yn aml iawn. Fasa Ernie yn dod fyny i ista yn lle oeddan ni'n ymarfar ar yr amsar.

"Ac wrth gwrs fi'n Gymro Cymraeg, oedd Malcolm [Allen] yna, oedd o'n siarad Cymraeg, ac oedd y pedwar ohonan ni wrth ein boddau yn siarad Cymraeg."

Ernie Walley gyda Andy Smillie a Johnny Byrne - chwaraewyr Crystal Palace yn 1961Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ernie Walley gyda Andy Smillie a Johnny Byrne - chwaraewyr Crystal Palace yn 1961

Pan oedd y ddau frawd, Ernie a Tom yn hyfforddwyr yn Watford, cafodd Iwan gyfle i weithio'n agos gydag Ernie am ddau dymor. Dyna pryd y sylweddolodd ar ei safonau uchel.

"Gafodd Dave Bassett ei ddiswyddo. Daeth Watford â Steve Harrison yn ôl i'r clwb ac oedd Steve Harrison isio rywun oedd eithaf tebyg i Tom Walley achos oedd Tom yn is-reolwr iddo fo, a wedyn oedd o isio rywun ddod i mewn i'r clwb i edrych ar ôl yr ail dim - y reserves.

"Doedd yna neb gwell na Ernie achos oedd o'n gwbod fasa Ernie yn dod â'r un allwedda' da i ddatblygu chwaraewyr ifanc, achos chwaraewyr ifanc oedd yn chwara yn yr ail dim.

"A dudwch bod sesiwn ymarfar yn dechra braidd yn ara deg a bod chwaraewyr ddim cweit ar eu gorau, a bod safon ddim yna, 'sa chi'n clwad y frawddeg yma y basa Ernie yn sgrechian ar dop ei lais; 'And stop! Get on that line', ac oeddan ni'n gwybod be' oedd yn dod... am weddill y bora mi fasan ni jest yn rhedag nes oeddan ni yn sâl."

Ernie'n hyfforddwr gyda Chelsea yn 1985 ac yn rhoi cyngor i'r chwaraewyr  Micky Hazard a John BumsteadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ernie'n hyfforddi gyda Chelsea yn 1985 ac yn rhoi cyngor i'r chwaraewyr Micky Hazard a John Bumstead

Dau frawd a dau gofi'n troi'n sêr

Magwyd Ernie a Tom yng Nghaernarfon, yn ddau o 15 o blant.

Mae'n debyg bod y fagwraeth galed wedi siapio cymeriad Ernie.

Meddai Iwan: "Oedd o'n galad fel hoelan i ddechra efo. Mae o'n stori anhygoel. Ernie oedd yr ail hynaf o 15 o blant. Tom oedd yr ail ieuengaf.

"Fasa ddim yn digwydd y dyddia yma - mae un yn mynd o Gaernarfon i Lundain i chwarae i ochr goch gogledd Llundain a mae'r llall yn mynd lawr i Lundain i chwarae i'r ochr wyn.

"Mae'n anhygoel a dwi ddim yn gwybod lle ddoth yr obsesiwn am bêl-droed ond pêl-droed oedd eu bywydau nhw, a chryfderau y ddau oedd gweithio efo'r amddiffyn yn enwedig Tom."

Cymeriad oddi ar y cae

Oddi ar y cae pêl-droed mae gan Iwan atgofion melys o rannu lifft gydag Ernie, o Lundain i ogledd Cymru.

Meddai: "Un stori arall dwi'n cofio, oedd o'n roi lifft adra i fi o Watford, adra i ogledd Cymru at Mam a Dad, a oedd Tom yn deud 'mae Ernie yma heddiw paid â boddran cael tocyn trên, roith Ernie lifft i chdi'.

"Oedd yna un rheswm pam fod o isio cwmpeini - oedd ganddo fo droed itha trwm pam oedd o yn y car ac oedd ganddo fo naw pwynt ar ei leisans - oedd o isio cyfaill bach yn ista drws nesa iddo fo yn cadw llygad ar blismyn ar y ffordd!

"Ac amball i waith ddaru fi fethu amball i blisman ac o'n i'n cael row, o'n i'n cwympo i gysgu yn y set a bydda Ernie'n deud 'Nes di fethu hwnna do!'"

Wrth adlewyrchu ar waddol Ernie, meddai Iwan am y ddau frawd: "Dau berson anhygoel, mae gen i gymaint i ddiolch iddyn nhw.

"Faswn i byth wedi chwarae am 20 mlynedd heb y cymorth na'r gwaith nath Ernie, ac yn enwedig Tom yn ystod ei ddyddiau cynnar yn Watford."

Pynciau cysylltiedig