Asynnod Eryri: Plant Mewn Angen yn cefnogi iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru
Mae Asynnod Eryri, yn Nhregarth, yn un elusen sy'n cael ei chefnogi gan Plant Mewn Angen.
Nod yr elusen, sydd ar Fferm Moelyci, yw gweithio gyda phlant a phobl ifanc i wella lles a iechyd meddwl.
Mae Jac, y bachgen yn y fideo, wedi bod yn mynd i weithio gyda'r asynod ers dwy flynedd ac mae wedi gwneud byd o les i'w orbryder, meddai ei fam.
Gallwch glywed y sgwrs gyfan ar BBC Sounds.
I gyfrannu i Plant Mewn Angen a chefnogi Aled Hughes ar ei Her Anferth, cliciwch yma., dolen allanol