Y cyflwynydd Huw Stephens yn cofio'r 'athrylith' Geraint Jarman
Mae'r canwr, y bardd a'r cynhyrchydd teledu, Geraint Jarman, wedi marw yn 74 oed.
Bu farw yn sydyn gyda'i deulu o'i amgylch.
Cafodd ei albwm cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif, ei ryddhau yn 1976.
Cyhoeddodd sawl albwm arall fel artist unigol a gyda'i fand 'Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr', gan gynnwys Tacsi i'r Tywyllwch, Hen Wlad Fy Nhadau a Diwrnod i'r Brenin.
Ymhlith ei ganeuon mwyaf adnabyddus mae Gobaith Mawr y Ganrif, Tacsi i'r Tywyllwch, Methu Dal y Pwysau a Gwesty Cymru.
Yn y teyrngedau iddo, mae wedi cael ei alw'n "gawr diwylliannol Cymru" ac "un o'r mwyaf dylanwadol erioed".
Y cyflwynydd Huw Stephens fu'n hel atgofion amdano.