Y canwr Geraint Jarman wedi marw yn 74 oed

Mae Geraint Jarman wedi ei ddisgrifio fel "un o'r mwyaf dylanwadol erioed"
- Cyhoeddwyd
Mae'r canwr, y bardd a'r cynhyrchydd teledu, Geraint Jarman, wedi marw yn 74 oed.
Bu farw yn sydyn gyda'i deulu o'i amgylch.
Cafodd ei albwm cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif, ei ryddhau yn 1976.
Cyhoeddodd sawl albwm arall fel artist unigol a gyda'i fand 'Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr', gan gynnwys Tacsi i'r Tywyllwch, Hen Wlad Fy Nhadau a Diwrnod i'r Brenin.
Ymhlith ei ganeuon mwyaf adnabyddus mae Gobaith Mawr y Ganrif, Tacsi i'r Tywyllwch, Methu Dal y Pwysau a Gwesty Cymru.
Yn y teyrngedau iddo, mae wedi cael ei alw'n "gawr diwylliannol Cymru" ac "un o'r mwyaf dylanwadol erioed".
Roedd "Jarman yn ddylanwadol efo D fawr", meddai Rhys Mwyn, yn dilyn "degawdau o greu, a chreu o safon".
Mae ei wraig, Nia a'i ferched Lisa, Hanna a Mared yn gofyn am breifatrwydd wrth iddyn nhw ddygymod â'u colled.

Cafodd albwm cyntaf Geraint Jarman, Gobaith Mawr y Ganrif, ei ryddhau yn 1976
Wedi ei eni'n Ninbych, treuliodd Geraint Jarman ei ddyddiau cynnar yn Rhuthun.
Symudodd i Gaerdydd pan oedd yn blentyn ac fe gafodd ei ddylanwadu gan rai o gerddorion Glan-yr-Afon.
Dechreuodd ei yrfa fel bardd a chyfansoddwr yn y 60au.
Roedd yn aelod o fand Y Bara Menyn yn y 70au cynnar gyda Meic Stevens a Heather Jones, gan recordio caneuon fel Mynd i'r Bala ar y Cwch Banana.
Disgrifiodd yr hanesydd cerddoriaeth Gari Melville ei albwm unigol cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif, fel "cynnyrch artist oedd am wneud argraff sylweddol ar roc Cymraeg".
"Eto, anodd fyddai credu yr adeg hynny y byddai'n parhau i gyfansoddi a rhyddhau heb argoel ei fod am stopio ymhell i'r mileniwm newydd."

Roedd Geraint Jarman, Heather Jones a Meic Stevens yn perfformio gyda'i gilydd dan yr enw Bara Menyn o gwmpas adeg opera roc Etifeddiaeth Trwy'r Mwg
Fe wnaeth Tacsi i'r Tywyllwch a gafodd ei ryddhau yn 1977 "argraff yr un mor drawiadol" yn ôl Gari Melville.
"Erbyn hyn roedd gigiau Jarman yn chwedlonol, a nosweithiau gwallgof yn rhannu llwyfan gyda'r Trwynau Coch, Edward H ac eraill yn arferol."
Roedd yr albwm Hen Wlad Fy Nhadau yn 1978 yn cynnwys caneuon fel Ethiopia Newydd, Instant Pundits, Sgip ar Dân, Merch Tŷ Cyngor a Methu Dal y Pwysa.
Yn ôl Gari Melville, Hen Wlad Fy Nhadau oedd "un o albwms y ganrif, heb os".

Geraint Jarman gyda (rhai o'r) Cynganeddwyr
Yn siarad ar Dros Ginio, dywedodd y cerddor a'r cyflwynydd Rhys Mwyn bod Jarman wedi codi safon cerddoriaeth Gymraeg gyda'i waith.
"Wedyn mae Jarman yn dod i mewn i'r categori yna – wedi cael gymaint o effaith – gymaint o ddylanwad ar gymaint ohonon ni dros gymaint o amser.
"Pan 'dan i'n sôn am artistiaid dylanwadol mae Jarman yn ddylanwadol efo D fawr."
Ychwanegodd: "Wnes i erioed weld Jarman yn 'neud gig gwael – doedd hynna jest ddim yn digwydd."
Jarman: 'Y cyntaf i ddod â’r ddinas i mewn i ddiwylliant pop Cymraeg'
Gwrandewch ar deyrnged Rhys Mwyn ar Dros Ginio
Yn 2017, enillodd wobr Cyfraniad Arbennig gan y Selar am ei gyfraniad enfawr i'r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg.
Ar y pryd, dywedodd trefnydd Gwobrau'r Selar, Owain Schiavone: "Does dim amheuaeth bod cyfraniad Jarman i'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn un enfawr, ac mae'r cyfraniad yn ymestyn i'w bumed degawd bellach gyda rhyddhau'r ardderchog 'Tawel yw'r Tymor' ar label Ankst."
Roedd hefyd yn actor a bu'n ymddangos yng nghyfres Glas y Dorlan yn y 70au, ac fel llais gwreiddiol SuperTed yn y Gymraeg.
'Agor cymaint o ddrysau'
Roedd hefyd yn gynhyrchydd teledu oedd yn gyfrifol am gyd-gynhyrchu rhaglen Fideo 9 - llwyfan pwysig i nifer o grwpiau ifanc y 90au.
Yn eu plith oedd Big Leaves, wnaeth hefyd fynd ar daith gyda Jarman.
Fe wnaeth "agor cymaint o ddrysau i ni yn y dyddiau cynnar", meddai Mei Gwynedd o'r band, wnaeth hefyd chwarae gyda band Geraint Jarman yn ddiweddarach.
"Byswn i, na degau o fandiau ac artistiaid eraill, heb fynd dim pellach na 'stafell gerdd yr ysgol.
"Diolch i ti hefyd am yr holl ganeuon eiconig, a braint oedd cael rhannu'r llwyfan fel dy gitarydd dros y 10 mlynedd diwethaf.
"Ond yn gyfan oll, diolch am fod yn ffrind mor annwyl. Nos da Ger."

Dywedodd Huw Jones, Cyfarwyddwr Sain o 1969-1981 mai "bardd oedd Geraint yn gyntaf, cyn troi'n gyfansoddwr caneuon ac yna, er syndod i lawer, yn berfformiwr".
"Fe welodd dalent pobl fel Tich Gwilym, Pino Paladino ac Arun Rahmun mewn cylchoedd oedd yn ddieithr i Gymry Cymraeg Caerdydd a'u plethu'n uned ysbrydoledig dan yr enw anhebygol, y Cynganeddwyr.
"Ac wedyn gydag un albwm ddisglair ar ôl y llall, fe roddodd i ni Obaith Mawr y Ganrif a dangos i ni Hen Wlad Fy Nhadau ac Ethiopia Newydd ochr yn ochr.
"Wedi'i hyfforddi fel actor, roedd yn ei elfen ar lwyfan tu ôl i'w sbectol dywyll ond efallai mai yn y stiwdio recordio roedd o yn ei elfen. Yn un o'r rhai cyntaf i roi prawf ar stiwdio newydd Sain ddiwedd y 70au, fe ddangosodd beth oedd yn bosib yn Gymraeg pan oedd talent yn cael pen rhyddid.
"Gŵr addfwyn, annwyl, cyfaill da. Mae'n ddiwrnod trist."
'Gobaith mawr cerddoriaeth flaengar Gymraeg'
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Ffred Ffransis, bod Geraint Jarman yn "ffenomenon newydd" wnaeth "roi dimensiwn ychwanegol i'r Byd Roc Cymraeg".
"Cyrhaeddodd Geraint Jarman â Gobaith mawr y Ganrif - cerddoriaeth o safon a ddenodd yr offerynwyr gorau, cerddoriaeth a gododd o ddinas gosmopolitanaidd Caerdydd a llu o ddylanwadau, oll yn naturiol Gymraeg.
Bu Geraint Jarman yn cyfrannu gwahanol ddulliau cerddorol, yn apelio at ieuenctid mewn mannau mor wahanol â'r Rhyl a Sir Gâr wledig, barddoniaeth a cherddoriaeth, yn apelio at fynychwyr gigs ac at Bryn Terfel!
"Er mai dychan oedd wrth wraidd y gân, fo oedd "gobaith mawr" cerddoriaeth flaengar Gymraeg.
"Ac eto, roedd y sbectol tywyll yn cuddio swildod diymhongar dyn annwyl iawn. Dwin cofio Heather Jones yn dweud y bu gwaith mawr perswadio Geraint i berfformio'n fyw ar flaen band.
"Yn bell cyn i'r gair "cynhwysol" ddod yn ffasiynol, bu Geraint yn "role-model" oedd yn caniatau i lu o bobl o gefndiroedd newydd ystyried eu hunain yn Gymry naturiol. Diolch am bopeth Geraint."

Geraint Jarman yn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol 2018
Dywedodd y darlledwr Hywel Gwynfryn: "Mae ei gyfraniad o'n un o gonglfeini cerddoriaeth poblogaidd Cymraeg, ac yn ddarlun o'r Gymru ddinesig oedd o'n ei 'nabod mor dda.
"Roedd o'n bleser cydweithio efo fo, ac dwi'n teimlo hi'n fraint mod i wedi cael sgwennu caneuon ar ei gyfer o.
"Mae un o'i ganeuon diweddar, Brethyn Cartref, yn dangos ei fod o wedi esblygu dros y blynyddoedd, a bod ei apêl yn parhau o hyd.
"'Dan ni wedi colli un o'r dylanwadau pwysicaf yn hanes datblygiad canu pop yng Nghymru."
'Un o'r mwyaf dylanwadol erioed'
Mewn teyrnged ar ei gyfrif X, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod Geraint Jarman yn "rhan fawr o hanes cerddoriaeth gyfoes Cymru - un o'r mwyaf dylanwadol erioed, heb os".
"Bydd ei waddol cerddorol gyda ni am byth."
Dywedodd y cerddor Geraint Cynan ar ei gyfrif X: "Nos da Jarman, Jarman Nos Da... talp mawr o'r rheswm dwi'n gerddor llawrydd oedd darganfod y Cynganeddwyr."
Dywedodd Aelod Plaid Cymru yn y Senedd, Llyr Gruffydd: "Newyddion trist am golli eicon ac un o ddylanwadau cerddorol mawr y genedl.
"Gwesty Cymru oedd fy albwm cyntaf erioed ac roedd ei ganeuon dros y degawdau yn drac sain fy mywyd.
"Roedd 'clustiau Cymru fach yn clywed reggae ar y radio'! Diolch am bopeth Geraint."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2024
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018