Uchafbwyntiau: Gweriniaeth Iwerddon 1-2 Cymru

Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi cyrraedd pencampwriaeth fawr am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl curo Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn.

Gyda lle yn Euro 2025 yn y fantol, fe lwyddodd Cymru i ddal eu gafael yn arwrol yn y munudau olaf yn Stadiwm Aviva.

Daeth gôl gyntaf y gêm i Hannah Cain gyda chic o'r smotyn.

Gydag un o'i chyffyrddiadau cyntaf o'r gêm, ergyd yr eilydd Carrie Jones wnaeth ddyblu mantais Cymru a'i gwneud hi'n 2-0 i'r ymwelwyr.

Er i Iwerddon haneru'r fantais gyda gôl hwyr, gorffennodd y gêm yn 2-1 i Gymru, gan arwain at orfoledd i dîm Rhian Wilkinson.