Cymru yn cyrraedd Euro 2025 ar ôl curo Gweriniaeth Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi cyrraedd pencampwriaeth fawr am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl curo Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn.
Gyda lle yn Euro 2025 yn y fantol, fe lwyddodd Cymru i ddal eu gafael yn arwrol yn y munudau olaf yn Stadiwm Aviva.
Roedd Hannah Cain a Carrie Jones wedi rhoi Cymru 2-0 ar y blaen, cyn i Iwerddon haneru'r fantais gyda gôl hwyr.
Ond fe orffennodd y gêm yn 2-1 i'r ymwelwyr, gan arwain at orfoledd i dîm Rhian Wilkinson.
Fe gychwynnodd Gweriniaeth Iwerddon ar y droed flaen, yn ennill dwy gic cornel yn y munudau cyntaf.
Ond roedd Cymru'n gyfforddus allan o feddiant, ac roedd hi'n ddechrau digon tawel i'r gôl-geidwad Olivia Clarke.
Roedd y Gwyddelod yn mynnu ei gwneud hi'n gêm gorfforol, ond roedd Cymru'n ymdopi'n dda.
Daeth seibiant byr wrth i ergyd gyntaf Cymru o'r gêm ddod gan Jess Fishlock, ar ôl iddynt fanteisio ar bas wael yng nghanol y cae.
Fe ddilynodd un o gyfleoedd gorau'r Gwyddelod o'r hanner, wrth i Denise O'Sullivan daro'r postyn gydag ergyd o bellter.
Gyda'r Gwyddelod yn rheoli'r meddiant, roedd y pwysau ar Gymru'n parhau ac fe wnaeth Clarke arbediad acrobatig o ergyd gan Julie Russell yn y cwrt cosbi i gadw'r sgôr yn gyfartal.
Ond o fewn ychydig o funudau, roedd Gweriniaeth Iwerddon ar y droed ôl eu hunain am gyfnod, gyda chic rydd gan Lily Woodham yn arwain at ddwy gic cornel ac ergyd o fewn y cwrt cosbi.
Roedd Katie McCabe yn ffodus i osgoi ail gerdyn melyn tuag at ddiwedd yr hanner ar ôl iddi ddod yn agos iawn i gicio Rachel Rowe.
Fe wnaeth y pwysau gynyddu ar dîm Rhian Wilkinson a oedd mewn gwirionedd yn hapus i glywed y chwiban am hanner amser.
Fe enillodd Cymru gic rydd ar ddechrau'r ail hanner yn dilyn trosedd ar Fishlock.
Aeth y bêl allan am gic i'r golwr i ddechrau ond - i syndod y Gwyddelod - awgrymodd y dyfarnwr teledu y dylai cic o'r smotyn gael ei ddyfarnu.
Ac o fewn ychydig o eiliadau, roedd Cymru wedi dechrau'r ail hanner yn y ffordd gorau posib gyda Hannah Cain yn ei gwneud hi'n 1-0.
Daeth Cain yn agos i'w gwneud hi'n 2-0, ond roedd ei rhediad yn fymryn rhy hwyr i gyrraedd croesiad isel Rowe.
Nid oedd yn rhaid aros yn hir am gyfle arall, ond fe saethodd Angharad James yn syth at gôl-geidwad y Gwyddelod, Courtney Brosnan, ar ôl rhediad campus o'u hanner eu hunain.
Gyda hanner awr i fynd, daeth Ffion Morgan a Carrie Jones ymlaen am Cain a Fishlock, a adawodd y cae oherwydd anaf.
Gydag un o'i chyffyrddiadau cyntaf o'r gêm, fe wnaeth Jones ei gwneud hi'n 2-0 i Gymru ar ôl pas wych gan Woodham i'w rhoi'n glir am gôl.
Ar ôl delio â sawl cic gornel gan y Gwyddelod, fe ddaeth gôl gyntaf Gweriniaeth Iwerddon o'r gêm gan Anna Patten o groesiad Katie McCabe.
Roedd Cymru dan gryn bwysau am y munudau olaf, wrth i'r Gwyddelod chwilio am ail gôl.
Ond fe wnaeth Cymru amddiffyn yn wych, a dangos cryn dipyn o gymeriad i gadw'r sgôr yn 2-1 ac i sicrhau eu lle yn y Swistir ar gyfer Euro 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl