Taylor Swift yng Nghaerdydd: 'Shwmae!'

Mae Taylor Swift wedi cyfarch miloedd o bobl yn Stadiwm Principality, Caerdydd yn Gymraeg.

Wrth i'r Eras Tour ddod i Gymru, fe ddechreuodd yn gantores ei chyngerdd drwy ddweud wrth y dorf: "Shwmae!"

Aeth ymlaen i estyn "croeso i daith Eras" cyn datgan mae dyma ei sioe gyntaf erioed yng Nghymru.

Roedd yna ymadrodd Cymraeg arall nes ymlaen gan un o'i dawnswyr, sef "ych a fi" yn ystod y gân We Are Never Ever Getting Back Together.

O'r daith 152 cyngerdd ar draws y byd nos Fawrth oedd yr unig gyfle i'w gweld yn perfformio yng Nghaerdydd.

Roedd rhai o'i dilynwyr wedi cyrraedd y stadiwm yn yr oriau mân yn y gobaith o sicrhau'r lle gorau posib i'w gweld o agos.

Mae yna gred y gallai'r cyngerdd gyfrannu £64m i economi'r ddinas.