Miloedd o bobl yng Nghaerdydd i weld Taylor Swift

Disgrifiad,

Taylor Swift yn cyfarch Stadiwm Principality, Caerdydd yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae Taylor Swift yn perfformio yng Nghaerdydd nos Fawrth fel rhan o'i thaith Eras, gan ddenu dros 70,000 o bobl i'r ddinas.

I'r miloedd sy'n caru'r seren bop, mae'r gyngerdd yn gyfle i fod yn rhan o daith sydd wedi torri recordiau byd eang.

Yn ariannol, y gred yw bod ei hymweliad gwerth £1bn i economi'r DU.

Yng Nghaerdydd, roedd yna rhybuddion y byddai'r traffig yn drwm ar y ffyrdd i mewn i'r brifddinas a gwasanaethau trên yn brysurach o lawer na'r arfer.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pobl wedi edrych ymlaen am misoedd i weld y gantores yn perfformio ...

Disgrifiad o’r llun,

... ac roedd ciw mawr eisoes wedi ffurfio ben bore Mawrth i'r rheiny oedd eisiau sicrhau eu lle ym mlaen y dorf, gyda rhai yn dweud eu bod wedi aros dros nos

Yn ôl Dr Robert Bowen o Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, y gred yw bydd y gyngerdd yn Stadiwm Principality yn cyfrannu £64m i economi Caerdydd.

“Mae’r amcangyfrif gan Barclays yn dweud efallai bod taith Taylor Swift ym Mhrydain gwerthu tua £1bn," meddai.

“Mae’r ffaith bod pobl yn hapus i deithio i weld cyngerdd fel hyn yn dangos pa mor bwysig yw hynny i’r economi.”

Ffynhonnell y llun, Abbie Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abbie Jones o Lanfairfechan wedi bod i ddwy gyngerdd Taylor Swift ers iddi gyrraedd y Deyrnas Unedig

Un sydd wedi bod yn dilyn y daith ydy Abbie Jones, 22 oed o Lanfairfechan.

"Dwi'n obsessed efo Taylor Swift," meddai.

Mae Abbie wedi teithio i Gaeredin a Lerpwl gyda'i ffrindiau dros yr wythnosau diwethaf ar gyfer y cyngherddau yno.

"O'n i'n fodlon gwario dipyn bach o bres i weld hi," meddai.

Ffynhonnell y llun, Abbie Jones
Disgrifiad o’r llun,

Abbie gyda'i ffrindiau ym Murrayfield cyn y gig Taylor Swift yno

Un arall sydd wedi croesi ffiniau i weld y gyngerdd ydy Brea Gilchrist o Colorado yn yr Unol Daleithiau.

“Mae fy nheulu cyfan yn dod gyda ni - fy rhieni, fy chwaer, ei gŵr hi a’u tri o blant," meddai.

Yn briod â Gavin o’r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, bydd Brea a’i theulu yn treulio bron i bythefnos yn y wlad ar ôl gweld Taylor Swift.

“Bydden i’n dweud ein bod ni yn bendant yn rhan o’r criw sy’n rhoi hwb i’r economi yng Nghymru dros y cwpl o wythnosau nesaf,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu Cymreig-Americanaidd wedi trefnu aduniad i gyd-fynd â'r gyngerdd

Mae Maggie McGarvey, 23, wedi hedfan o'r Swistir i fwynhau'r gyngerdd gyda'i ffrind o Gymru, Cadi.

"Dwi bendant yn dwrist Taylor Swift," meddai Maggie, sydd o deulu Gwyddelig-Americanaidd.

"Dwi mor gyffrous."

Mae Maggie a'i ffrindiau yn bwriadu treulio'r prynhawn yn creu breichledau a pharatoi eu gwisgoedd arbennig cyn teithio i Stadiwm Principality.

Ffynhonnell y llun, Maggie McGarvey
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maggie McGarvey wedi bod yn cynllunio ar gyfer y gyngerdd am fisoedd

Pam felly bod miloedd o bobl yn fodlon gwario cannoedd o bunnoedd i wylio'r gantores yn fyw?

"Rhyw ffordd neu'i gilydd, mae Taylor Swift wedi profi i ni fwy nag unwaith ei bod hi'n un o'r ffigyrau mwyaf pwerus yn y byd miwsig," meddai Eleri Rosier, sy'n Athro Marchnata ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wrth siarad ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru, dywedodd fod dylanwad Taylor Swift yn deillio o'i pharodrwydd i rannu cymaint am ei bywyd personol wrth ganu.

Ychwanegodd fod nifer yr albymau mae hi wedi'u rhyddhau wedi cyfrannu at y cynnwrf ar gyfer y daith Eras.

"Mae lefel y disgwyliad ar gyfer y daith 'ma wedi bod yn hollol enfawr."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ciw hir i brynu nwyddau taith Eras pan agorodd y siop ger y stadiwm yng Nghaerdydd ddydd Llun

Dywedodd Lowri Joyce, llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru, eu bod yn "edrych 'mlaen i groesawu miloedd o Swifties” i Gaerdydd.

“Mae gynnon ni gynllun yn ei le,” meddai, gan ychwanegu fod 10 trên ychwanegol yn rhan o'r gwasanaeth.

Ei chyngor i bobl sydd wedi teithio i’r brifddinas i fwynhau oedd: “Cynlluniwch o flaen llaw. Mae am fod yn brysur.”

Disgrifiad o’r llun,

Lowri Joyce o Trafnidiaeth Cymru

Fe gaeodd nifer o brif ffyrdd y ddinas am 12:00 tan ganol nos, gan gynnwys y Stryd Fawr, Heol y Porth (Westgate Street) a Stryd y Parc.

Cafodd rhagor o ffyrdd eu cau wedyn am 15:00, gan gynnwys Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (Cowbridge Road East), Stryd y Castell a Heol y Dug.

Mae gwasanaeth parcio a theithio mewn grym ers o 09:00 ymlaen, gyda chyfle i bobl adael eu ceir ger Stadiwm Dinas Caerdydd a theithio ar fws i’r ardal gyferbyn â Stadiwm Principality.

Roedd modd hefyd parcio yng Ngerddi Sophia a Chanolfan Ddinesig Caerdydd.

Amserlen y noson

Fe agorodd y giatiau ar gyfer y gyngerdd am 16:00.

Fe ddechreuodd yr adloniant am 17:45 gyda'r band Americanaidd, Paramore, yn diddanu'r miloedd yn y stadiwm.

Ymddangodd Taylor Swift ei hun ar y llwyfan ar ôl 19:00.

Mae'r gantores yn enwog am berfformio mwy na 40 o ganeuon, gyda disgwyl i'r gyngerdd bara am dros dair awr a hanner.

Mae to Stadiwm y Prinicipality ar gau felly, doedd dim angen i'r miloedd sydd wedi treulio oriau yn creu eu gwisgoedd boeni am y tywydd.

Er hynny, mae'r tywydd wedi bod yn bositif, gyda chyfnodau heulog a thymheredd o tua 19C.

Pynciau cysylltiedig