Ffermwyr yn protestio yng Nghaerdydd
Dyma'r olygfa yng nghanol dinas Caerdydd ddydd Mercher, wrth i ffermwyr ymuno â rhes o dractorau mewn protest yn erbyn newidiadau Llywodraeth y DU i dreth etifeddiaeth.
Yn ei chyllideb fis diwethaf, fe gyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai ffermydd sydd werth dros £1m yn wynebu treth etifeddiaeth yn y dyfodol ar raddfa o 20%, gyda'r opsiwn o'i dalu'n raddol dros gyfnod o 10 mlynedd.
Mae'r newidiadau i'r dreth wedi cael eu beirniadu'n llym gan y sector amaethyddol, gyda rhai ffermwyr yn dweud bydd yn rhaid iddyn nhw werthu tir i'w dalu.
Ond mae Llywodraeth y DU yn mynnu y bydd y newidiadau ond yn effeithio ar nifer fechan o ffermydd bob blwyddyn, a bod y system yn deg.