Cyllideb: £1.7bn ac arian diogelu tomenni glo i Gymru
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.7bn ychwanegol fis Ebrill nesaf, yn yr hyn a alwodd y canghellor Llafur y “cynnydd ariannol mwyaf mewn termau real ers datganoli”.
Yn ei chyllideb, cyhoeddodd Rachel Reeves hefyd £25m tuag at fesurau cynnal a chadw a diogelwch ar gyfer tomenni glo segur yng Nghymru.
Cadarnhaodd Llywodraeth y DU gefnogaeth i ddau brosiect hydrogen electrolytig yng Nghymru, yn Aberdaugleddau a Phen-y-bont ar Ogwr, i gefnogi cynhyrchu hydrogen carbon isel.
Dywedodd Ms Reeves ei bod yn "hynod falch o fod y canghellor benywaidd cyntaf" wrth gyhoeddi cyllideb gyntaf Llafur yn San Steffan ers bron i 15 mlynedd.
Wrth godi trethi o £40bn, dywedodd y byddai unrhyw ganghellor yn “wynebu’r un realiti,” meddai, a byddai unrhyw “ganghellor cyfrifol yn gweithredu”.
Mae'r gwrthbleidiau yng Nghymru wedi taflu dŵr oer ar y gyllideb, ac undeb ffermwyr wedi rhybuddio bod newid i dreth etifeddiant yn "drychinebus" i ffermydd teuluol.
Beth sydd wedi'i gyhoeddi?
Yr £1.75bn ychwanegol mewn arian canlyniadol i Lywodraeth Cymru yn 2025-26 - i godi'r cyfanswm i £21bn - yw'r cynnydd mwyaf ers datganoli (ddim yn cyfrif am chwyddiant). Mae llawer o hyn wedi’i ysgogi gan gynnydd mawr yng nghyllid y GIG ar gyfer Lloegr.
Mae dros 2,500 o hen domenni glo yng Nghymru, gan gynnwys 350 sy’n cael eu hystyried yn rai risg uchel, a chyhoeddodd Ms Reeves £25m i'w diogelu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ers blynyddoedd ar Lywodraeth y DU i ariannu’r gwaith o’u diogelu, gan amcangyfrif cost o ryw £500m dros 15 mlynedd.
Fel y cyhoeddwyd ddydd Mawrth, dywedodd y canghellor y bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer pobl 21 oed neu hŷn yn codi 6.7% o £11.44 yr awr i £12.21 o fis Ebrill nesaf.
Yn ogystal, bydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn codi ar gyfer pobl rhwng 18 ac 20 oed o £8.60 i £10.
Prentisiaid fydd yn cael yr hwb cyflog mwyaf, gyda chyflog fesul awr yn cynyddu o £6.40 i £7.55.
Dywedodd y canghellor y bydd yn rhewi treth tanwydd y flwyddyn nesaf ac y bydd yn cynnal y toriad presennol o 5c am flwyddyn arall hefyd.
Ni fydd trethi uwch yn y pympiau petrol y flwyddyn nesaf, meddai.
Ymhlith y cyhoeddiadau eraill, dywedodd Ms Reeves:
rhagwelir y bydd gwariant ar bensiwn y wladwriaeth yn codi 4.1% yn 2025-26 – hynny yw cynnydd o £470 ar gyfer dros 12 miliwn o bensiynwyr yn y DU.
bydd y lwfans gofalwr yn cynyddu o £81.90 yr wythnos i'r hyn sy'n cyfateb i 16 awr ar y cyflog byw cenedlaethol yr wythnos. Gall gofalwr bellach ennill dros £10,000 y flwyddyn wrth dderbyn y lwfans. Bydd hyn yn caniatáu iddynt "gadw mwy o'u harian", meddai.
bydd treth enillion cyfalaf (Capital Gains Tax) yn cynyddu. Codir y dreth hon ar elw a wneir o werthu asedion megis ail gartref neu fuddsoddiadau, gan gynnwys cyfranddaliadau. Bydd cyfradd is treth enillion cyfalaf yn codi o 10% i 18%, a’r gyfradd uwch o 20% i 24%.
bydd yn lleihau gwariant gwastraffus, meddai, ac yn gosod targed arbedion cynhyrchiant o 2% ar gyfer adrannau'r llywodraeth.
o 2028-29 bydd trothwyon treth personol yn cael eu huwchraddio yn unol â chwyddiant unwaith eto.
bydd £11.8bn i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig, a £1.8bn i ddigolledu dioddefwyr sgandal Swyddfa’r Post.
dileu trefniant dadleuol a welodd y llywodraeth yn derbyn cannoedd o filiynau o bunnoedd o gynllun pensiwn ar gyfer cyn-lowyr, y mae disgwyl i tua 18,000 o gyn-lowyr Cymru elwa ohono.
bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd chwyddiant prisiau defnyddwyr yn 2.5% ar gyfartaledd eleni, 2.6% yn 2025, yna 2.3% yn 2026, 2.1% yn 2027, 2.1% yn 2028 a 2.0% yn 2029.
'Trychinebus' i ffermydd teuluol
Dywedodd Ms Reeves y bydd yn ymestyn y rhewi ar y trothwy treth etifeddiant am ddwy flynedd arall hyd at 2030.
Mae hynny’n golygu y gellir etifeddu’r £325,000 cyntaf o unrhyw ystâd yn ddi-dreth, gan godi i £500,000 os yw’r ystâd yn cynnwys preswylfa a drosglwyddir i ddisgynyddion uniongyrchol, a £1m pan drosglwyddir lwfans di-dreth i briod neu bartner sifil.
O fis Ebrill 2026, bydd yr £1m cyntaf o asedau busnes ac amaethyddol cyfun yn parhau i ddenu dim treth etifeddiant o gwbl, ond ar gyfer asedau dros £1m, bydd treth etifeddiant yn berthnasol gyda rhyddhad o 50%, ar gyfradd weithredol o 20%, meddai.
Mae undeb yr NFU wedi disgrifio'r penderfyniad fel un “trychinebus” i ffermwyr teuluol ac wedi cyhuddo’r llywodraeth o “dorri addewidion” ynglŷn â rhyddhad eiddo amaethyddol.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon "difrifol" am y newid sydd, yn eu barn nhw, yn debygol o effeithio ar fwyafrif o ffermydd teuluol Cymru.
Dywedodd Llywydd UAC, Ian Rickman, “rydym yn gwybod bod maint cyfartalog daliadau fferm yng Nghymru tua 120 erw – gydag amcangyfrifon ceidwadol hyd yn oed o werth tir ac adeiladau yn rhoi gwerth ased o dros £1m i’r rhan fwyaf o ffermydd.
“Mae Rhyddhad Eiddo Amaethyddol wedi chwarae rhan hanfodol ers amser maith i sicrhau nad yw’r rhai sy’n etifeddu daliadau amaethyddol yn cael eu llethu gan drethi pan fydd ffermydd teuluol yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall."
Ychwanegodd, “mewn cyfnod heriol i ffermio yng Nghymru, bydd y newyddion hyn yn ychwanegu at ansicrwydd pellach i fusnesau fferm sy’n gwneud eu gorau glas i gynhyrchu bwyd a gwella’r amgylchedd.”
Ar HS2 - y prosiect rheilffyrdd cyflym newydd i gysylltu de a gogledd Lloegr - doedd dim sôn am wariant canlyniadol yng Nghymru pan ddywedodd Ms Reeves ei bod yn ymrwymo'r arian i ddechrau gwaith twnelu i Euston yn Llundain.
Mae HS2 wedi bod yn destun dadleuol yng Nghymru ers ei gyhoeddi.
Felly does dim ceiniog ychwanegol yn dod i Gymru yn ei sgil, er gwaetha’r biliynau o wariant arno yn Lloegr.
Cyn y gyllideb, roedd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi mynnu nad yw ei llywodraeth wedi “ildio” yn y frwydr honno.
'Effaith ddinistriol' yng Nghymru
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, y bydd y gyllideb "yn cael effaith ddinistriol yng Nghymru".
Dywedodd bod y gyllideb "wedi’i seilio ar gadw pensiynwyr yn oer y gaeaf hwn, a bydd y cynnydd mewn yswiriant gwladol yn dreth swyddi hynod ddinistriol i economi Cymru sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd ar ôl degawdau o reolaeth Llafur".
“Nid oes neb yn synnu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi torri rhyddhad ardrethi busnes, yn union fel y maent wedi’i wneud yng Nghymru, gan brofi ymhellach mai record affwysol Llywodraeth Lafur Cymru yw’r glasbrint ar gyfer plaid Keir Starmer.
"Ac yn union fel eu hymosodiad ar gymunedau gwledig yng Nghymru, nawr mae newid Llafur i reolau treth etifeddiant mewn perygl o arwain at ddiwedd y fferm deuluol."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS "nad oes fawr o newyddion da i Gymru".
Meddai, “er gwaethaf addo y byddai’r rhai sydd â’r ysgwyddau ehangaf yn talu eu cyfran deg, bydd newidiadau i yswiriant gwladol cyflogwyr yn cael effaith anghymesur ar fusnesau sy’n cyflogi gweithwyr ar gyflog is, a fydd yn cael effaith ar bobl ledled Cymru.
"Bydd newidiadau i ryddhad eiddo amaethyddol yn tanseilio’r model fferm deuluol sydd wrth galon amaethyddiaeth Cymru.
“Ni fydd y cynnydd i grant bloc Cymru yn ail-gydbwyso setliad cyllidol Cymru. Mae cynghorau Cymru yn unig yn wynebu bwlch o £559m yn y gyllideb yn 2025-26.
"Er gwaethaf addo ‘mynd i’r afael â HS2’, methodd y Canghellor â chyflwyno’r biliynau sy’n ddyledus i Gymru."
Diogelu tomenni glo - Dadansoddiad Steffan Messenger, gohebydd amgylchedd
Daeth pryderon am ddiogelwch hen domenni glo Cymru i'r wyneb yn dilyn tirlithriad uwch Pendyrus yng nghwm Rhondda yn ystod glaw trwm storm Dennis, nôl yn 2020.
Tra bod llywodraeth Lafur Cymru a'r llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ar y pryd wedi sefydlu tasglu ar y cyd, roedd 'na anghytuno ynglŷn â phwy ddylai fod yn talu am waith adfer.
Dadl gweinidogion ym Mae Caerdydd oedd bod y problemau'n deillio o gyfnod cyn datganoli, gan awgrymu y gallai'r gost fod cymaint â £600m ar draws Cymru.
Datgelodd asesiadau gyfanswm o 2,573 o hen domenni glo, gyda 360 ohonyn nhw â'r potensial i gael effaith ar ddiogelwch y cyhoedd.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cael ei werthu fel tystiolaeth o "berthynas newydd... wedi'i selio ar gydweithio, parch a gweithredu" rhwng dwy lywodraeth o'r un lliw.
Ond mae grwpiau cymunedol a'r gwrthbleidiau yn gwneud y pwynt y bydd angen llawer mwy na £25m yn y tymor hir.
Mae dogfennau'r gyllideb yn dangos bod y cyllid hwnnw ar gyfer 2025-26, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol iddyn nhw ofyn i'w cyfoedion yn San Steffan gyfrannu at waith ymchwil o ran "be fydd angen i ni wneud yn y dyfodol".
Mae deddfwriaeth newydd - sy'n cynnwys sefydlu corff i oruchwylio diogelwch tomenni glo - yn mynd i gael ei gyflwyno i'r Senedd cyn diwedd y flwyddyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref
- Cyhoeddwyd29 Hydref
- Cyhoeddwyd29 Hydref