'Cymryd camau positif i adfywio' campws Llambed

Mae Is-ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dweud na fydd campws Llanbedr Pont Steffan yn cau, er y penderfyniad i symud cyrsiau israddedig o'r safle i Gaerfyrddin.

Fe bwysleisiodd yr Athro Elwen Evans hefyd bod dim bwriad gan y brifysgol i dorri cyrsiau neu bynciau, fel sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan brifysgolion Caerdydd, Bangor a De Cymru.

Fe wnaeth ei sylwadau yn ei chyfweliad cyntaf ers i'r brifysgol gadarnhau fis diwethaf y byddai astudiaethau'r Dyniaethau yn cael eu trosglwyddo i gampws Caerfyrddin.

Daeth 300 o bobl i gyfarfod cyhoeddus nos Iau i drafod yr hyn y disgrifiodd y brifysgol fel "dyfodol posibl i gampws Llambed".

Mewn cyfweliad â BBC Cymru dywedodd yr Athro Evans: "'Da ni yn trio 'neud, ac yn cymryd camau fydd yn bywioli'r campws i'r dyfodol.

"Cyn i bethau fynd yn rhy bell, 'da ni'n trio cymryd camau positif fydd ddim yn arwain at yr hoelen olaf, ond yn arwain at adfywiad."