Galw am y 'gwir' am ddyfodol campws prifysgol Llanbedr Pont Steffan

Campws LlambedFfynhonnell y llun, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Bydd darpariaeth y Dyniaethau yn trosglwyddo o Lanbedr Pont Steffan i gampws Caerfyrddin o fis Medi 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae galw am "eglurder" a'r "gwir" am ddyfodol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, ar drothwy cyfarfod cyhoeddus yn y dref.

Yn ôl un cynghorydd sir, gobaith y dref yw clywed "cynlluniau pendant" gan y brifysgol nos Iau, wedi'r "trasiedi" diweddar o drosglwyddo darpariaeth y Dyniaethau i gampws Caerfyrddin.

Gyda nifer o fusnesau'n elwa o wariant staff a myfyrwyr y brifysgol yn Llambed, mae rhai'n cwestiynu beth yw eu dyfodol wedi'r newid.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod "yn glir" nad yw campws Llambed yn cau, meddai, ond ei bod yn chwilio am ffyrdd eraill o ddarparu gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg sy'n rhoi dyfodol mwy diogel iddo.

Y Cynghorydd Sir dros ward Llambed, Ann Bowen Morgan, yn dal poster sy'n hyrwyddo'r cyfarfod cyhoeddus.
Disgrifiad o’r llun,

Gobeithio am "gynlluniau pendant" ar gyfer dyfodol y campws yn Llambed mae'r cynghorydd sir Ann Bowen Morgan

Mae pobl "eisiau'r gwir" a chael "gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd i'r campws", meddai'r cynghorydd sir dros Lambed, Ann Bowen Morgan.

"Dwi'm yn meddwl bod ni wedi cael digon o eglurder.

"Mae'r is-ganghellor wedi bod yn cwrdd gyda'r cyngor tref a wedi cwrdd â rhai ohonom ni fel unigolion, ond dyma'r tro cyntaf i ni gael rhywbeth cyhoeddus...

"Mae 'na fwrlwm yn y dref, a busnesau newydd yn cychwyn, ond mae eisiau i ni gael rhywbeth pendant, cynlluniau.

"'Dan ni'n gobeithio nos Iau, byddwn ni'n clywed am gynlluniau pendant ar gyfer y dyfodol i'r campws."

92 myfyriwr ar y campws

Mae'r brifysgol wedi cadarnhau mai 92 myfyriwr israddedig sydd yn Llanbedr Pont Steffan erbyn hyn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan bod y sefyllfa wedi bod yn "anodd" i'r brifysgol, ond bod yr "is-ganghellor wedi addo fod y campws yn mynd i barhau".

"Mae pobl y dref yn ofni bod y lle yn mynd i gau lawr ond maen nhw wedi addo bod e'n mynd i barhau," meddai.

Kelly Jones yn paratoi bwyd i'w chwsmeriaid yn Deli Kelly
Disgrifiad o’r llun,

Gweld cyfarfodydd a chynadleddau'n parhau ar y campws yw gobaith Kelly Jones

Drws nesaf i gampws y brifysgol yn Llambed mae siop Deli Kelly.

Mae wedi bod ar agor ers saith mis, ac mae'r perchennog Kelly Jones yn dweud fod busnes yn dda.

"Mae'r cwsmeriaid yn wahanol i gyd," meddai.

"Fel staff y brifysgol - porters, y cleaners, pobl sydd yn gweithio 'na, dim just y lecturers a'r staff…

"Maen nhw'n dod mewn tair, pedair gwaith yr wythnos, yn ddyddiol."

Wrth feddwl am ddyfodol y campws, dywedodd: "Mae e'n codi ofn mawr arno fi fel perchennog a fel person sy'n byw yn Llambed.

"Beth sy'n mynd i ddigwydd? Beth sy'n mynd i ddigwydd i Lambed? Beth sy'n mynd i ddigwydd i busnes fi? Hwnna yw'r cwestiwn.

"Gobeithio bydd y brifysgol yn gallu gwneud rhywbeth i helpu ni fel busnesau bach i weld sut allwn ni symud Llambed ymlaen."

Alexander Hales, perchennog Siop Botanica yn dal blodau
Disgrifiad o’r llun,

Symudodd Alexander Hales o Aberystwyth i agor siop flodau yn Llambed fis Mai diwethaf

Gyferbyn â'r campws mae siop flodau Alexander Hales, sydd ar agor ers mis Mai.

Mae hefyd yn poeni am effaith trosglwyddo darpariaeth y Dyniaethau i Gaerfyrddin ynghyd â'r hyn fydd yn digwydd i'r campws ei hun.

"Mae'n largest employer yn y dref, mae colli'r bobl 'na yn mynd i gael huge effect ar fusnes bach fel ni," meddai.

"Gobeithio [bydd y brifysgol] yn cadw education 'ma in some form, wedyn gobeithio fydd mwy o bobl yn dod i'r dref i astudio neu conferences."

Evie James, Prentis yn Hunters Hair Lounge yn golchi gwallt un o'i chleientiaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o staff y brifysgol yn gleientiaid yn un o siopau trin gwallt y dref

Yn siop trin gwallt Hunters Hair Lounge, sydd wedi bod yn y dref ers tua blwyddyn a hanner, mae 'na bryder hefyd am eu hincwm gyda "cwpwl" o staff y brifysgol yn gleientiaid iddyn nhw.

"O'n nhw'n gweithio yn y coleg a'n dod draw i gael gwallt nhw, just wedi benni gwaith a ma' nhw'n dod draw," meddai Evie James, sy'n brentis yno.

"Falle byddwn ni'n colli rhai. Gobeitho bydd hwnna ddim y case.

"Mae'n lovely i weld pobl yn dod draw, cael gwallt nhw wedi gwneud a siarad am y campws ei hunan."

Campws y Brifysgol mewn golwg o ffenest siop ddillad, Lan Llofft
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd gweld y brifysgol o siop ddillad Lan Llofft yn Llambed

Yn wahanol i Deli Kelly, Siop Botanica a Hunters Hair Lounge, mae siop ddillad Lan Llofft wedi hen sefydlu yn y dref, ac wedi bod ar agor ers 15 mlynedd.

Yn ôl y rheolwraig, Angharad Williams, wrth feddwl am Llambed mae rhywun yn meddwl yn syth am adeilad y brifysgol.

"Ti mo'yn bod nhw'n gwneud rhywbeth lle mae pobl lleol dal yn gallu ei ddefnyddio," meddai, wrth rannu ei gobeithion ar gyfer dyfodol y campws.

"Mae amaeth yn rywbeth mawr yn yr ardal, gallen nhw wneud rhywbeth fel 'na? Mae pobl yn gwneud gymaint adref nawr, oes yna fodd i ddefnyddio fe fel lle i gynhadledd neu cyrsiau fel open university?

"Mae'r adeiladau, if you don't use them, maen nhw yn mynd downhill, yn 'dyn nhw, o ran cadw lan y maintanance.

"Mae eisiau rhywbeth mewn a hynny'n weddol gloi."

Llanbedr Pont Steffan

Mae'r Athro Rhys Jones yn arbenigo mewn Daeryddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'n rhagweld "newid symbolaidd mawr" yn Llambed dros y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd: "Mae'n mynd i fynd tu hwnt i golled ac effaith economaidd oherwydd bod myfyrwyr wedi cael dylanwad cymdeithasol a diwylliannol fawr hefyd.

"[Mae] nifer yn crybwyll yr ieithoedd mae rhywun wedi clywed yno dros y blynyddoedd… mi fydd yna newid mawr.

"Yr her i Lambed yw meddwl sut y gallan nhw ail-ddyfeisio eu hunain ac ystyried beth yw eu dyfodol nhw fel tref fechan yng ngorllewin Cymru."

Prifysgol 'wedi bod yn glir'

Mewn datganiad, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Elwen Evans, KC: "Roedd y penderfyniad i symud darpariaeth y Dyniaethau yn anodd ond yn angenrheidiol er mwyn diogelu'r ddisgyblaeth a diogelu profiad y myfyrwyr.

"Rydym wedi bod yn glir nad yw'r brifysgol yn cau campws Llanbedr Pont Steffan ond ei bod wrthi'n chwilio am ffyrdd eraill o ddarparu gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg sy'n rhoi dyfodol mwy diogel iddo.

"Y cyfarfod cyhoeddus yw'r cam nesaf yn ein proses ymgysylltu, ac rwy'n awyddus i archwilio syniadau ac awgrymiadau gyda'r rhai sydd wedi ymrwymo i lwyddiant campws Llambed a'r brifysgol yn y dyfodol".

Cynhelir y cyfarfod nos Iau 27 Chwefror am 19:00 yn Neuadd Gelfyddydau'r brifysgol.

Bydd Elin Jones AS yn cadeirio'r cyfarfod, gyda'r Is-Ganghellor ac uwch swyddogion yn rhan o'r drafodaeth.