Coflaid enillydd y Goron a'i fam yn 'hollol reddfol'

Doedd cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod ddim yn disgwyl cael ei gwahodd i'r llwyfan wedi i'w mab ennill y Goron.

"O'dd e ddim 'di cael ei gynllunio o gwbl," meddai Helen Prosser wrth raglen Dros Frecwast ar faes y brifwyl ym Mhontypridd.

Cafodd Gwynfor Dafydd ei gofleidio gan ei fam ar ôl cael ei gyhoeddi fel enillydd y Goron.

"O'n i'm yn gwybod beth i'w 'neud," meddai Ms Prosser.

"O'n i ffaelu ysgwyd ei law e, ti'm yn ysgwyd llaw dy blentyn!

"Felly dyma'r cwtsh yn digwydd yn hollol reddfol."

Ychwanegodd Gwynfor, o Donyrefail ei fod yn "dal i brosesu'r holl beth".