Coroni Gwynfor Dafydd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Disgrifiad,

Dywedodd Gwynfor Dafydd ei fod yn "brofiad hollol wefreiddiol" dod i'r brig yn ei eisteddfod leol

  • Cyhoeddwyd

Gwynfor Dafydd yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

Daeth y bardd o Donyrefail i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 33 o geisiadau.

Mae'n derbyn gwobr ariannol o £750 hefyd, a hynny am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc 'Atgof'.

Cafodd y pwnc ei ddewis i nodi canrif union ers i Prosser Rhys ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl am bryddest ar yr un pwnc, yn sôn am ei berthynas rywiol gyda dyn arall, pan oedd bod yn hoyw yn anghyfreithlon.

Wrth iddo gael ei longyfarch ar y llwyfan gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood, cafodd y bardd ei gofleidio gan ei fam, Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Helen Prosser yn cofleidio ei mab, Gwynfor Dafydd, ar ôl iddo gael ei enwi fel enillydd y Goron

Cafodd y bardd buddugol ei eni a'i fagu yn Nhonyrefail yn Rhondda Cynon Taf, ac fe aeth i ddwy o’r ysgolion lleol, Ysgol Gynradd Tonyrefail ac Ysgol Llanhari.

Dechreuodd farddoni yn yr ysgol uwchradd, yn y mesur caeth i ddechrau, yn sgil ymweliad gan Mererid Hopwood â’r ysgol.

Enillodd Gadair yr Urdd pan oedd yn dal i fod yn ddisgybl yn Llanhari yn 2016, ac yna am yr eildro ar ei domen ei hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr Taf ac Elái yn 2017.

Aeth i Brifysgol Caergrawnt i astudio llenyddiaeth Almaeneg a Sbaeneg, ac fe dreuliodd flwyddyn yn gweithio i’r Siambr Fasnach Brydeinig yn Chile.

Mae Gwynfor Dafydd bellach yn gweithio fel newyddiadurwr i'r BBC ar raglenni News at Six a’r 10 O’Clock News.

Casgliad o gerddi 'ffraeth a ffyrnig'

Y beirniaid eleni oedd Guto Dafydd, Elinor Gwynn a Tudur Dylan Jones.

Dywedodd Tudur Dylan fod Gwynfor Dafydd - o dan y ffugenw 'Samsa' - wedi llwyddo i "ennyn ystod o emosiynau ynom".

Wrth draddodi o’r llwyfan, dywedodd fod Samsa yn "cyflwyno dilyniant sy’n digwydd gweddu’n berffaith i fro’r Eisteddfod eleni, am mai yn ei thir a’i daear hi y mae ei wreiddiau.

"Mae ganddo berthynas bell ac agos gyda’i ardal a chyda’i thrigolion. Mae’n teimlo’n un â’r gymdeithas, ac eto fymryn ar wahân," meddai.

Ychwanegodd Guto Dafydd yn ei feirniadaeth: “Dyma gasgliad ffraeth a ffyrnig, mydryddol a meistrolgar, sy’n archwilio’n gariadus-gritigol berthynas y bardd â’r cymoedd a gyflwynodd ei dad-cu iddo’n blentyn."

Dywedodd Elinor Gwynn fod y cerddi yn "plethu hiwmor a dwyster, y presennol a’r gorffennol, a sylwebaeth grafog gyda myfyrdodau teimladwy am ei hunaniaeth ei hun".

"Mewn ffordd wreiddiol a gafaelgar mae’n cynnig cipolwg ar y profiadau, y straeon a’r mythau sy’n creu ein lleoedd ac yn siapio ein perthynas â nhw," meddai.

'Mae meddwl am ffugenw bron mor anodd â'r ysgrifennu!'

Tra'n siarad ar raglen Eisteddfod S4C dywedodd Gwynfor Dafydd: "Maen nhw'n gerddi am y cymoedd - roedd hynny'n anochel. Es i ati yr amser yma llynedd ac fe gymerodd hi tua saith mis i mi eu hysgrifennu."

Ganrif ers coroni Edward Prosser Rhys am ei gerdd 'Atgof' - dyna hefyd oedd y testun eleni.

"Roedd hi'n amhosib anwybyddu y cysylltiad yna ac mae cerdd yn y casgliad sy'n dathlu'r cymoedd wrth gwrs, ond hefyd yn trafod culni a cheidwadaeth sydd efallai yma, a'i bod yn anodd tyfu lan yn berson sydd efallai yn wahanol.

"Fe ysgrifennais gerdd chwe mlynedd yn ôl - oedd ddim yn hunangofiannol - am brofiad bachgen hoyw yn dod mas i'r rhieni. Roedd hi'n anodd anwybyddu'r cysylltiad ganrif ers i Proser Rhys ennill ar yr un testun."

A beth oedd arwyddocâd y ffugenw, Samsa?

"Fe enillodd Rhys Iorwerth llynedd dan y ffugenw Gregor. Yn nofel enwog 'The Metamorphosis' gan yr awdur Franz Kafka, enw'r prif gymeriad yw Gregor Samsa.

"Roeddwn i'n meddwl bydden i'n cadw rhyw fath o ddilyniant. Mae meddwl am ffugenw bron mor anodd â'r ysgrifennu!"

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig