Dafydd Elis-Thomas: 'Cawr gwleidyddol, gydag ochr ddrygionus'
Mae llu o deyrngedau wedi'u rhoi i Dafydd Elis-Thomas yn y Senedd wedi ei farwolaeth yn 78 oed.
Roedd yn un o ffigyrau gwleidyddol mwyaf blaenllaw a lliwgar Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.
Mewn sesiwn deyrnged iddo yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan fod "stori Dafydd wedi'i blethu yn adeiladwaith ein cenedl".
"Roedd e'n gymeriad rhyfeddol. Cawr gwleidyddol, gydag ochr ddrygionus," meddai.
Gwyliwch deyrnged Eluned Morgan iddo uchod.